Profion: Merched yn well am ddarllen a bechgyn am fathemateg
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth merched berfformio'n well na bechgyn am ddarllen, ond bechgyn oedd orau mewn mathemateg, yn ôl canlyniadau profion ysgol eleni.
Mae disgyblion rhwng saith ac 14 oed yn cymryd y profion yn Ebrill neu Fai bob blwyddyn.
Disgyblion Sir Fynwy oedd orau am ddarllen, ond Bro Morgannwg oedd gyda'r canlyniadau gorau yn y profion rhifedd.
Blaenau Gwent oedd gyda'r canlyniadau isaf ar gyfer darllen a mathemateg, yn ôl data Llywodraeth Cymru.
Cymraeg yw'r gwahaniaeth mwyaf
Dros bob oedran, fe wnaeth merched berfformio'n well na bechgyn am ddarllen.
Mae dau brawf mathemateg - un gweithredol sy'n profi sgiliau rhifau, mesur a data; ac un arall sy'n profi gallu disgyblion i ddatrys problemau.
Fe wnaeth bechgyn yn well mewn profion gweithredol, ond roedd y gwahaniaeth yn wahanol i oedrannau gwahanol yn y prawf arall.
Mae'r gwahaniaeth rhwng bechgyn a merched ar ei fwyaf yn y prawf darllen Cymraeg.
Mae'r profion i fod i ddangos sgiliau disgyblion unigol a galluogi i ysgolion gymharu canlyniadau gydag ysgolion eraill.
Mae'r canlyniadau yn dangos perfformiad disgyblion o'i gymharu â phlant eraill o'r un oed a'r un flwyddyn ysgol.
Yn ôl canlyniadau eleni, ar Ynys Môn y mae'r sgôr canlyniadau Saesneg a Mathemateg wedi gostwng fwyaf yn y tair blynedd diwethaf, ac ym Mlaenau Gwent roedd y cwymp mwyaf yn y sgôr profion darllen Cymraeg.
Roedd y cynnydd uchaf yn Abertawe yn y sgôr darllen, a Chasnewydd i'r prawf darllen Cymraeg.
Abertawe hefyd oedd gyda'r cynnydd uchaf yn y prawf mathemateg gweithredol, gyda'r cynnydd yn yr ail brawf mathemateg yn Rhondda Cynon Taf.