Traeth Y Rhyl ar gau yn ystod sioe awyr

  • Cyhoeddwyd
RhylFfynhonnell y llun, Eirian Evans/Geograph

Mae trefnwyr Sioe Awyr Y Rhyl eleni wedi dweud y bydd traeth y dref ar gau yn ystod y digwyddiad eleni.

Bydd y sioe yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn a dydd Sul 27 a 28 o Awst.

O ganlyniad i gau'r traeth ar gyfer y digwyddiad, ni fydd achubwyr bywyd ar batrol ar y traeth dros y penwythnos ac ni fydd pobl yn cael nofio yn y môr.

Mae rheolau llymach wedi eu cyflwyno y llynedd gan yr Awdurdod Hedfan Sifil, a hynny yn dilyn trychineb yn ystod sioe awyr Shoreham pan blymiodd awyren o'r awyr a glanio ar ganol ffordd brysur gan ladd 11 o bobl.

Y sioe eleni fydd yr wythfed sioe awyr flynyddol yn Y Rhyl, ac mae'r digwyddiad wedi tyfu yn ei phoblogrwydd meddai'r trefnwyr. Daeth 140,000 o bobl i'r sioe y llynedd.

Ni fydd awyren fomio'r Lancaster, oedd i fod yn rhan o hediad heibio i gofio am Frwydr Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn ymddangos eleni, gan fod yr Awyrlu'n dweud fod yr awyren wedi datblygu problemau technegol.