Achosion delweddau anweddus o blant wedi treblu
- Cyhoeddwyd
Mae nifer yr achosion yn ymwneud â delweddau anweddus o blant i gael eu cofnodi gan yr heddlu wedi mwy na threblu dros y tair blynedd diwetha, yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law'r NSPCC.
Dangosodd Cais Rhyddid Gwybodaeth wnaed gan yr elusen plant fod dros 1,321 o droseddau wedi eu cofnodi yn ystod y tair blynedd diwethaf - gan godi o 201 yn 2013 i 639 yn 2015.
Yn ystod y tair blynedd, Heddlu'r De welodd y nifer uchaf o droseddau, gyda 480. Cafodd Heddlu Dyfed Powys 412, a Heddlu'r Gogledd 320.
Roedd Heddlu Gwent hefyd wedi cofnodi 109 o droseddau, ond roedd hynny ar gyfer 2015 yn unig, ac ni chafwyd ffigyrau ganddynt am y blynyddoedd blaenorol.
Ar draws gwledydd Prydain, cododd troseddau yn ymwneud â chynhyrchu delweddau anweddus, eu cadw a'u dosbarthu o 4,530 yn 2013 i 10,818 yn 2015.
'Problem gynyddol'
Gyda chymaint o gynnydd, mae'r NSPCC yn galw am roi'r adnoddau pwrpasol i'r heddlu fedru mynd i'r afael â'r bygythiad, gan bwysleisio fod cyfrifoldeb hefyd ar y diwydiant digidol i wneud hynny.
Dywedodd Des Mannion, Pennaeth NSPCC Cymru: "Mae'r ffigyrau hyn yn dangos yn glir fod yna broblem gynyddol o bobl yn edrych ar deunydd anweddus o blant, ac mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael â'r mater.
"Ry' ni eisiau i gwmnïau ar-lein roi blaenoriaeth i'r mater drwy neulltio arbenigedd ac adnoddau er mwyn atal cyhoeddi a dosbarthu delweddau fel hyn.
"Rhaid i ddarparwyr rhwydweithiau cymdeithasol a llwyfannau technolegol eraill gydnabod mai eu cyfryngau nhw sy'n galluogi i gamdriniaeth rhywiol plant ar-lein ddigwydd, a rhaid iddyn nhw ymrwymo o ddifri i'w daclo."
Mae ffigyrau hefyd yn dangos fod yr heddlu ar draws y Deyrnas Unedig wedi cofnodi 2,000 o achosion rhwng 2013 a 2015, o blant oedd â delweddau anweddus yn eu meddiant.
Yng Nghymru, Heddlu'r Gogledd oedd a'r nifer uchaf - 74 - ac roedd gan Heddlu Gwent 12. Doedd Heddlu'r De na Heddlu Dyfed Powys ddim wedi cofnodi'r un achos.
Mae'r NSPCC yn dweud eu bod yn bryderus y gallai'r troseddau yma gynnwys pobl ifanc yn cymryd hunluniau noeth, ac maen nhw'n annog rhieni i siarad â'u plant am y peryglon.
Dywedodd Mr Mannion: "Rhaid i blant gael eu dysgu am y peryglon o anfon lluniau rhywiol ohonyn nhw'u hunain, fel nad ydyn nhw mewn perygl o gael niwed neu gael eu camdrin."