Cynnydd 'anghynaladwy' mewn galwadau i dimau achub
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch i ddenu twristiaid wedi arwain at gerddwyr a dringwyr heb offer priodol angen eu hachub ar Yr Wyddfa, yn ôl timau achub mynydd.
Cafodd tîm achub mynydd Llanberis eu galw 43 gwaith i fynydd uchaf Cymru ym mis Awst - y ffigwr misol uchaf erioed.
Roedd y mwyafrif o'r rhain yn bobl oedd wedi dioddef anafiadau i'w coesau neu yn rhy flinedig i barhau.
Mae ymgyrch diweddaraf Croeso Cymru yn annog ymwelwyr i 'Ddarganfod eich Epic'.
Ond mae'r tîm achub mynydd yn credu bod hyn wedi arwain at nifer o gerddwyr yn mynd i'r afael â'r esgyniad heb yr offer a'r wybodaeth gywir.
Dywedodd cadeirydd tîm achub mynydd Llanberis, Rob Johnson bod yr ymgyrch wedi cyfrannu at y twf mewn galwadau i'r mynydd - o 34 ym mis Awst 2015 i 43 eleni.
Ychwanegodd y gallai nifer o'r galwadau wedi gallu cael eu hosgoi, a bod nifer y galwadau ar hyn o bryd yn "anghynaladwy".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod ymgyrch Croeso Cymru "yn gyfle i hybu diogelwch mewn gweithgareddau awyr agored".
Ychwanegodd: "Mae timau achub mynydd yn ardderchog am helpu pobl, ond wrth i'r sector antur dyfu, does dim amheuaeth y bydd timau achub angen cymorth gan addysgwyr i leihau'r tebygolrwydd y bydd pobl angen galw arnyn nhw.
"Dyna pam y bydden ni'n parhau i weithio gyda phartneriaid a'r diwydiant fel bod pobl yn gallu mwynhau Cymru a bod yn ddiogel".