Galw'r doctor!
- Cyhoeddwyd
Sut brofiad yw hyfforddi i fod yn feddyg y dyddiau yma? Mae'n bwnc llosg gyda meddygon ifanc yn Lloegr ynghanol anghydfod gyda Llywodraeth Prydain ynglŷn a'u cytundebau a'u horiau gwaith. Mae'r sefyllfa yn wahanol yma yng Nghymru a dros y chwe wythnos nesa yn y gyfres 'Doctoriaid Yfory' ar S4C cawn gipolwg ar y to nesa o feddygon yn ystod eu hyfforddiant yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.
Yn eu plith mae Gwenlli Mai o Drawsfynydd, a buodd hi'n sôn wrth Cymru Fyw am ei huchelgais yn y byd meddygol a'r sefyllfa unigryw wnaeth ei denu at yr alwedigaeth.
Mae gen i a fy mrawd a'm chwaer, Dafydd (11) a Glesni (17), gyflwr iechyd cymhleth - Hypothyroidism. Mae'r cyflwr ar Mam hefyd. Mae'n beth prin i gymaint o aelodau o'r un teulu fod wedi cael y deiagnosis.
Dydy'r chwaren thyroid ddim yn cynhyrchu ddigon o hormonau felly rydyn ni'n gorfod cymryd tabledi i roi'r hormon i ni. Cyn belled â'n bod ni'n gwneud hynny rydyn ni'n llwyddo i aros yn iach. Petasen ni ddim yn cymryd y tabledi, fuasen ni'n teimlo yn flinedig. Mae'n gallu achosi iselder mewn rhai achosion hefyd.
Roedd rhaid i ni fynd yn ôl ac ymlaen o'r ysbyty i geisio darganfod pam bod y cyflwr ganddon ni. Trwy'r broses hon nes i ddechrau cael mwy a mwy o ddiddordeb mewn afiechydon.
Ro'n i wrth fy modd yn gweld y doctoriaid yn gweithio, ac yn gobeithio y byddwn i rhyw ddydd yn cael helpu rhywun fel yr oedden nhw yn fy helpu i.
Rydw i wedi mwynhau fy mlwyddyn gyntaf yng Nghaerdydd er bod gen i ofn ar y cychwyn. Mae 'na lot i'w ddysgu. Ar ôl arholiadau'r Nadolig roedden ni i gyd yn edrych ar ein gilydd ac yn pendroni be' oedden ni yn ei wneud ar y cwrs. Ond mae o wedi bod yn beth da gweld faint rydan ni angen ei ddysgu er mwyn bod yn feddygon da.
Dwi wedi bod yn cadw llygad ar y protestio sydd yn digwydd yn Lloegr wrth i feddygon ifanc herio Llywodraeth San Steffan ynglŷn â chytundebau ac oriau gwaith. Mae'r sefyllfa yn wahanol yno wrth gwrs, ond mae'n bwysig ein bod ni'n deall y dadleuon rhag ofn y byddwn ni yn wynebu sefyllfa debyg yma yng Nghymru yn y dyfodol.
Lle i'r Gymraeg?
Er fy mod i'n astudio yng Nghaerdydd, ychydig iawn o gyfloedd dwi wedi ei gael hyd yma i ddefnyddio'r Gymraeg. Dwi wedi bod ar brofiad gwaith gyda meddygon teulu a dim ond un claf dwi wedi ei gyfarfod oedd yn siarad Cymraeg. Mae'n bosib dewis rhai modylau o fewn y cwrs ble mae 'na hyfforddiant yn y Gymraeg i'w gael. Dwi'n lwcus hefyd fod fy mentor yn siarad Cymraeg.
Dwi'n credu y dylai bod 'na fwy o sgôp i feddygon ifanc fedru defnyddio'r Gymraeg yn Ysgol Feddygaeth fwya'r wlad. Dydw i ddim yn deall chwaith pam bod nifer o fyfyrwyr Cymraeg, gafodd raddau Safon Uwch tebyg i fi, wedi cael eu gwrthod ar y cwrs yng Nghaerdydd.
Maen nhw yn dilyn eu cyrsiau meddygol dros y ffin yn Lerpwl a chanolfannau tebyg, er mai Caerdydd oedd eu dewis cyntaf. Byddai nifer o'r bobl yma yn dewis aros yng Nghymru i weithio ar ôl graddio gan gynnig gwasanaeth dwyieithog i gleifion.
Rydw i fy hun yn awyddus i aros yng Nghymru ar ôl gorffen fy mhum mlynedd o astudio. Byddai'n well gen i weithio mewn ysbyty na bod yn feddyg teulu. Dwi'n lecio'r cyffro o sefyllfaoedd a chleifion gwahanol bob dydd. Ond dwi ddim wedi penderfynu eto ar faes i arbenigo ynddo. Ac wrth gwrs cyn hynny, fel y gwelwch chi yn ystod y gyfres, mae gen i lot fawr o bethau i'w ddysgu!
Doctoriaid Yfory ar S4C, 20.25 Nos Fawrth