Map newydd etholaethau'n cwtogi nifer y seddi yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae map etholaethol newydd wedi cael ei gyhoeddi, fyddai'n gweld nifer y seddi sydd gan Gymru yn San Steffan yn gostwng o 40 i 29.
Y Blaid Lafur - a enillodd 25 sedd yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol diwethaf - sy'n debygol o ddioddef fwyaf o'r newidiadau arfaethedig.
Mae gan etholwyr 12 wythnos i leisio eu barn ar y cynlluniau fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus.
Byddai'r etholaethau newydd yn fwy, ac fe fyddai pob etholaeth yng Nghymru yn debycach i'w gilydd o ran maint poblogaeth.
Mae'r cynllun newydd wedi cael ei ddylunio gan Gomisiwn Ffiniau i Gymru yn defnyddio fformiwla gafodd ei gosod gan lywodraeth glymbleidiol y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Bydd ffiniau etholaethol yn newid ar draws y DU, wrth i nifer y seddi yn Nhŷ'r Cyffredin ostwng o 650 i 600.
Ond Cymru fydd yn gweld y toriad mwyaf ymysg pedair gwlad y DU.
Mae'n rhaid i bob etholaeth newydd gael o leiaf 71,031 o etholwyr. Ar hyn o bryd, dim ond un o'r 40 etholaeth yng Nghymru sydd â mwy na hynny.
Pe bai'r cynllun newydd yn cael ei gyflwyno erbyn etholiad cyffredinol 2020, byddai'n golygu na fyddai San Steffan a'r Cynulliad yn rhannu'r un etholaethau.
'Cynigion cychwynnol'
Dywedodd y Comisiwn Ffiniau ei fod wedi ceisio cadw cysylltiadau cymunedol, ond nad oedd wedi ystyried ffactorau gwleidyddol.
Yn ôl Ysgrifennydd y Comisiwn, Steve Halsall, cynigion cychwynnol yw'r rhain.
"Mae hefyd wedi talu sylw i ffactorau perthnasol eraill ac wedi ceisio cael yr atebion sydd fwyaf addas i anghenion lleol yng Nghymru," meddai.
Dadansoddiad ein Golygydd Materion Cymreig, Vaughan Roderick
Oherwydd ei chryfder traddodiadol yng Nghymru roedd hi'n anorfod mai Llafur fydd yn dioddef waethaf wrth i'r nifer o etholaethau seneddol yn gostwng o 40 i 29.
Serch hynny fe fydd y blaid honno wedi ei syfrdanu gan faint y difrod y byddai'r argymhellion presennol yn achosi.
Pe bai'r ffiniau a argymhellir yn cael eu gwireddu dim ond rhyw 12 o seddi diogel i Lafur fyddai 'na yng Nghymru - hanner y nifer presennol.
Ar yr un pryd fe fyddai 'na gynnydd sylweddol yn nifer y seddi ymylol ac fe fydd y Ceidwadwyr yn awchu gweld etholaethau megis Pen-y-bont a Gorllewin Bro Morgannwg a De Clwyd a Gogledd Maldwyn yn ymddangos ar y map etholiadol.
Fe fydd 'na ochenaid o ryddhad ym mhencadlys Plaid Cymru hefyd. Fe fyddai'r blaid honno yn cychwyn fel ffefryn mewn tair sedd, Môn ac Arfon, Gogledd Clwyd a Gwynedd a Chaerfyrddin a ni fyddai Ceredigion a Gogledd Penfro a De Clwyd a Gogledd Maldwyn yn hesb iddi.
Ymateb y pleidiau
Mae'r blaid Lafur wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr o wneud y newidiadau er eu budd eu hunain.
Ychwanegodd llefarydd nad yw'n ystyried y nifer fawr o bobl a gofrestrodd mewn pryd i bleidleisio yn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Hywel Williams, na ddylai Cymru "golli allan yn anghyfartal".
"Fel mae hi'n sefyll, mae pwerau Cymru yn llawer gwannach na rhai'r Alban a Gogledd Iwerddon," meddai.
"San Steffan sy'n parhau yn gyfrifol am lawer o bolisïau sy'n effeithio ar Gymru, a bydd gan ein cenedl lai o lais pe bai'r cynlluniau yma'n cael eu gwireddu."
Dywedodd y Ceidwadwr, David Davies, Aelod Seneddol Mynwy: " Mae pob ardal o'r DU yn mynd i golli seddi achos ni'n mynd i leihau nifer o'r aelodau o'r senedd.
"Mae Cymru efallai yn mynd i golli mwy achos ar hyn o bryd mae gyda ni fwy nag ardaloedd eraill ym Mhrydain, ac mae'n drueni bod ni wedi penderfynu blynyddoedd yn ôl i fynd ymlaen gyda'r Cynulliad mewn ffordd, achos mae hynny'n golygu bod hi'n anochel y bydden ni'n colli seddau."