Rio 2016: Aur i Aled Sion Davies
- Cyhoeddwyd
Yn y Gemau Paralympaidd yn Rio de Janeiro mae'r Cymro Aled Sion Davies wedi cipio medal aur yn ffeinal taflu pwysau F42 - gan daflu at 15.97 metr ar ei drydydd cynnig.
Wrth wneud hynny fe lwyddodd i osod record byd Paralympaidd newydd hefyd.
Yn Llundain bedair blynedd yn ôl cafodd fedal efydd wedi iddo daflu pwysau F42/F44, a medal aur yn y ddisgen trwy daflu pellter o 46.14m.
Roedd Davies yn awyddus i amddiffyn y teitl F42 am daflu'r ddisgen eto, ond penderfynodd y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol i beidio â chynnwys y dosbarth F42 yn y gemau eleni.
Roedd hyn yn golygu fod rhaid iddo ganolbwyntio'n hytrach ar daflu pwysau dros y pedair blynedd diwethaf, ac ar ôl newid hyfforddwr a cholli pwysau mae nawr wedi llwyddo i gipio ail medal aur Paralympaidd.
Cafodd ei ddewis i fod yn gapten tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow ac fe enillodd fedal arall, arian y tro yma, yn y gystadleuaeth disgen F42/44 dosbarth cymysg.
Ym Mhencampwriaeth IPC y Byd yn 2015 enillodd ddwy fedal aur, un mewn taflu pwysau ac un arall yn y ddisgen. Fe dorrodd record y byd, record yr oedd o wedi ei gosod ei hun dair gwaith wrth gipio'r aur yn y ddisgen.