Teulu o Bwyl yn darganfod bedd perthynas yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Teulu Jan Pojasek ger ei fedd yn LlansawelFfynhonnell y llun, Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Disgrifiad o’r llun,

Teulu Jan Pojasek ger ei fedd yn Llansawel

Dros 60 mlynedd ar ôl marwolaeth gweithiwr yn ystod gwaith adeiladu Pont Llansawel, mae aelodau o'i deulu o Wlad Pwyl wedi gallu ymweld â bedd eu perthynas am y tro cyntaf.

Roedd Jan Pojasek yn ei arddegau yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan gafodd Gwlad Pwyl ei meddiannu gan yr Almaen. Cafodd ei gludo i'r Almaen i wneud gwaith gorfodol yno, ond llwyddodd i ddianc ac ymunodd â byddin y cynghreiriaid.

Wedi'r rhyfel, daeth Cymru yn ail gartref i Jan a bu'n gweithio yn y diwydiant adeiladu nes ei farwolaeth mewn damwain ar 8 Ionawr 1952 yn 26 oed. Trefnwyd ei angladd gan ei ffrindiau, ond oherwydd y Llen Haearn, ni allai ei deulu fod yn bresennol.

Y llynedd, derbyniodd y Cyngor Castell-nedd Port Talbot e-bost gan Dawid Kutryn, oedd wedi bod yn chwilio am fedd ei hen ewythr am beth amser. Ychydig iawn o fanylion oedd gan y teulu ac roedd rhwystrau ieithyddol wedi'u hatal rhag dod o hyd i fwy o wybodaeth am eu perthynas yn y gorffennol.

Gwaith ymchwil

Yn dilyn ymchwil gan wasanaeth archifau'r cyngor, canfuwyd union leoliad y bedd a rhoddwyd gwybod i'r teulu. Yna derbyniodd y cyngor rai eitemau teyrnged a roddwyd ar y bedd ac fe anfonwyd y lluniau yn ôl i'r teulu Kutryn.

Trosglwyddwyd y manylion i Angela Healy hefyd, aelod lleol o elusen Gatholig Cymdeithas St Vincent De Paul, a drefnodd i'r garreg goffa ar y bedd gael ei hanfon i saer maen i gael ei glanhau a'i hadfer.

Cynhaliwyd gwasanaeth i ailgysegru a bendithio'r bedd ym mis Mai gan Offeiriad Pwyleg, y Tad Artur Strzepka. Roedd aelodau o Eglwys Gatholig San Joseff yng Nghastell-nedd, staff yr Adran Fynwentydd ac Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cyng. Ted Latham yn bresennol yn y seremoni.

Ffynhonnell y llun, Teulu Pojasek
Disgrifiad o’r llun,

Jan Pojasek

Mynwent

Fis diwethaf, teithiodd Dawid a'i deulu o Wlad Pwyl i Lansawel i ymweld â bedd Jan ym Mynwent Llanilltud Fach, yn ogystal â lleoliad y ddamwain.

Dywedodd y Cynghorydd Ali Thomas OBE, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: "Rwy'n falch iawn bod y cyngor wedi gallu chwarae ei ran mewn stori mor deimladwy. Mae staff ein Hadran Fynwentydd wedi mynd y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir i sicrhau y gallai'r teulu Kutryn ganfod bedd eu perthynas ar ôl yr holl flynyddoedd."

Cyn dychwelyd i Wlad Pwyl, ymwelodd y teulu â swyddfa Maer Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Sheila Penry, i roi anrheg i'r cyngor i ddiolch am ei gymorth a'r croeso cynnes a gawsant yn ystod eu hymweliad.

Meddai Dawid Kutryn: "Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at helpu ein teulu. Ni fyddwn byth yn anghofio hyn a byddwn bob amser yn ddiolchgar am bopeth.

"Mae popeth wedi rhagori ar ein disgwyliadau. Trefnwyd y daith gyfan gan Gymdeithas St Vincent De Paul ac rydym yn ddiolchgar iawn iddi am ein helpu. Roedd gallu ymweld â bedd ein perthynas ar ôl yr holl amser yma yn brofiad ingol."