'Ymateb yn gyflym'
- Cyhoeddwyd
Mae fideo pwerus wedi cael ei rannu ar Facebook, dolen allanol dros y dyddiau diwethaf lle mae Melissa Mead o Gernyw, a gollodd ei mab blwydd oed i'r salwch Sepsis, yn rhannu ei stori bersonol er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r clefyd. A hithau'n fis codi ymwybyddiaeth am Sepsis (sy'n gallu cael ei alw yn wenwyn gwaed neu septicaemia), mae dwy fam o Gaerdydd wedi rhannu eu profiadau nhw gyda Cymru Fyw:
Cafodd Osian, mab Alice Rothwell, ei daro'n wael ym mis Mai eleni pan oedd yn 15 mis oed.
'Rhywbeth mawr yn bod'
"Roedd gan Osian dymheredd uchel iawn ac roedd yn ddi-hwyl a r'on i'n poeni amdano felly aethon ni at y meddyg teulu. Dywedodd y meddyg am gadw llygad arno a dod nôl os oedden ni'n poeni.
"Erbyn y diwrnod wedyn cafon ni ein hanfon i'r Ysbyty Athrofaol. Ar ôl i feddygon yno gadw llygad arno, roedd yn ymddangos yn well, yn gallu cadw hylif i lawr ac ymhen rhai oriau cafodd ddod adre.
"Doedd hi ddim tan y trydydd diwrnod tan i ni sylweddoli bod rhywbeth mwy difrifol yn bod arno. Roedd fy mam yng nghyfraith yn gofalu amdano a sylwodd nad oedd yn yfed unrhyw hylif a'i fod yn flinedig iawn. Rhuthrais adre, ac erbyn i fi gyrraedd y tŷ roedd ei wefus yn troi'n las, ei gorff yn welw ac yn frith (mottled) a r'on i'n gallu dweud yn syth bod rhywbeth mawr yn bod.
"Ffoniais 999 gan esbonio'r symptomau, roedd e'n anadlu'n gyflym iawn a doedd e ddim yn ymateb rhyw lawer i ddim byd o'i gwmpas a roedd ei ddwylo a'i draed yn anghyffredin o oer. Cyrhaeddodd yr ambiwlans o fewn 10 munud, ac erbyn iddo gyrraedd yr ysbyty mi roedd y doctoriaid i gyd yn aros amdanon ni ac yn gwybod yn union beth i'w wneud.
Profion
"Roedden nhw'n trio'n galed i ffeindio gwythïen er mwyn cael hylif i mewn i'w gorff ac mi oedd yn rhaid iddo fynd i'r adran gofal dwys.
"Fe wnaethon nhw llwyth o brofion, ond doedden nhw ddim yn gallu dweud yn union beth oedd wedi achosi'r Sepsis, ond taw ymateb eilradd i haint firaol oedd e. Fe fuodd yn yr ysbyty am bum diwrnod, ond yn ffodus iawn, fe wellodd yn gyflym."
Fe gafodd Osian Sepsis pan oedd yn fis oed, wedi iddo gael ei eni dri mis yn gynnar mewn ysbyty ym Mharis, esbonia Alice, ond am ei fod yn cael triniaeth yn yr adran neo natal yn y fan honno, doedd hi ddim mor ymwybodol o'r clefyd bryd hynny.
"Cafodd antibiotics a thrawsblaniad gwaed bryd hynny. Ond pan ddigwyddodd yr ail dro, roeddwn i'n gwybod yn iawn bod rhaid ymateb yn gyflym.
"Y cyngor fyswn i'n ei roi yw i fod yn ymwybodol o'r symptomau, ac i ymateb yn gyflym. Os ydych chi'n gallu gwneud diagnosis yn syth yna mae rhywun yn gallu gwella'n iawn, ond os nad ydy'n cael ei ddiagnosio'n ddigon buan, yna mae rhywun yn gallu marw."
Mae Lindsay Lewis yn fam i Cadi Mair, ac roedd meddygon yn amau mai Sepsis oedd ar ei babi hithau, pan oedd yn 12 wythnos oed.
Golau glas
"Rhai wythnosau'n ôl, aethon ni â Cadi Mair i gael ei phigiadau 12 wythnos yn y feddygfa. Fe wnaeth un o'r pigiadau waedu llawer. Er ei bod hi'n dawel ac roedd ychydig o fever arni ar ôl y pigiadau, mae hynny i'w ddisgwyl a doedd dim achos i boeni i ddechrau.
"Doedd hi ddim tan tua 11 o'r gloch y nos pan wnaeth hi ddechrau actio'n od. Fe sylwon ni bod ei breichiau hi'n gorwedd un bob ochr i'w chorff, ac mi oedd hi'n gwneud sŵn undonog, ddim fel hi ei hunan o gwbwl. Wedyn fe sylwon ni bod un o amrannau ei llygad yn syrthio i lawr ychydig bach, felly fe ffoniais y doctor out of hours am gyngor.
"Fe ddywedon nhw'n syth bod hyn yn achos 999 ac fe ddaeth yr ambiwlans o fewn 10 munud. Er bod Cadi Mair yn ymddangos ychydig yn well erbyn hynny, dywedon nhw ei bod hi'n brotocol i fynd â babi o dan 3 mis oed i'r ysbyty, ond erbyn i ni ei chario hi lawr y grisiau i fynd i'r ambiwlans roedd ei chyflwr wedi newid.
"Roedd ei chorff yn frith (mottled), ac fe wnaeth y paramedics ymateb yn sydyn iawn a rhoi chwistrelliad o penicillin iddi. Aethon ni i'r ysbyty gyda golau glas ar yr ambiwlans ac erbyn i ni gyrraedd yr ysbyty roedd yr holl feddygon yn disgwyl amdanon ni.
"Fe fuon ni'n yr ysbyty am bum diwrnod a chafodd Cadi Mair brofion a'i thrin gyda antibiotics. Doedden nhw'n methu dweud 100% taw Sepsis oedd e, neu a oedd hyn yn ymateb i'r pigiadau yr oedd hi wedi eu cael.
"R'on i'n gofyn yn yr ambiwlans "ydy hi'n mynd i farw?" Doedden nhw'n methu ateb. Mae'n hanfodol i ymateb yn gyflym a ffonio 999 os ydych chi'n sylwi ar unrhyw un o'r symptomau."
Mae mwy o wybodaeth am Sepsis, y symptomau a beth i'w wneud ar gael yma: