Robot achub bywyd ar ei ffordd i Lanbedr
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr maes gwersylla ger Llanbedr ym Meirionydd wedi buddsoddi £8,000 ar robot sy'n gallu achub bywydau yn y môr.
Mae Rich Workman, cyfarwyddwr y safle ym Mochras, yn dweud ei fod wedi penderfynu prynu'r robot, o'r enw E.M.I.L.Y (Emergency Integrated Lifesaving Lanyard), ar ôl i staff y maes gwersylla gael eu galw i geisio achub nifer o bobl o'r môr dros yr haf.
Mae'r teclyn yn cael ei ddefnyddio yn yr Unol Daleithiau ers rhai blynyddoedd, ond dyma fydd y tro cyntaf iddo gael ei ddefnyddio ym Mhrydain.
Bydd E.M.I.L.Y yn gwneud ei siwrnai gyntaf i'r dŵr ddydd Iau.
Mae'r teclyn, sydd cael ei reoli o bell, yn gallu teithio ar gyflymder o 20milltir yr awr ac yn gallu achub hyd at bedwar o bobl ar y tro.
Fydd y robot, medd Mr Workman, ddim yn gwneud gwaith achubwyr yn llwyr, ond bydd yn rhoi amser ychwanegol gwerthfawr i griwiau wrth iddyn nhw geisio cyrraedd pobl sydd mewn trafferthion yn y dŵr.