Atal 'hawl i brynu' ar gyfer tai ym Môn

  • Cyhoeddwyd
taiFfynhonnell y llun, PA

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau mai Cyngor Môn yw'r diweddaraf i benderfynu dod â chynllun tai 'hawl i brynu' i ben.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant, ei fod wedi cytuno i'r cais "er mwyn sicrhau bod y cartrefi ar gael i'r rheiny sydd eu hangen".

Mae cynghorau Abertawe a Sir Gâr eisoes wedi cael yr hawl i atal rhagor rhag cael eu gwerthu, a hynny er mwyn gwarchod eu stoc tai.

Mae disgwyl i weinidogion gyflwyno deddfwriaeth er mwyn cael gwared â 'hawl i brynu' ar draws Cymru gyfan dros y flwyddyn nesaf.

Diddymu polisi Thatcher

Roedd diddymu'r polisi, sydd yn deillio o gyfnod Margaret Thatcher fel Prif Weinidog, yn un o addewidion y Blaid Lafur yn eu maniffesto ar gyfer etholiadau'r Cynulliad eleni.

Ers 1980 mae dros 130,000 o dai yng Nghymru wedi cael eu gwerthu dan y cynllun, sydd yn caniatáu i denantiaid brynu eu tŷ oddi ar y cyngor neu gymdeithas dai.

Yn ôl Cyngor Môn, mae bron i hanner eu stoc tai wedi cael ei werthu bellach, gan adael llai na 4,000 o gartrefi ar ôl.

Dywedodd Mr Sargeant ei fod wedi cytuno i gais y cyngor "er mwyn eu helpu i ddelio â'r pwysau sydd yn wynebu eu tai cymdeithasol, a sicrhau bod y cartrefi ar gael i'r rheiny sydd eu hangen".

Ychwanegodd y byddai diddymu'r cynllun yn lleihau pwysau ar dai cymdeithasol ac yn ffordd o annog mwy o dai fforddiadwy i gael eu hadeiladu.