Cwynion yn erbyn cwmni Dŵr Cymru yn dyblu
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y cwynion ysgrifenedig gan gwsmeriaid Dŵr Cymru wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ôl ystadegau a gasglwyd gan Gyngor y Cwsmeriaid Dŵr, roedd Dŵr Cymru ymhlith pedwar cwmni yn y Deyrnas Unedig i weld cynnydd "brawychus" mewn cwynion.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod yn siomedig ynglŷn â'r sefyllfa.
Yn ôl Dŵr Cymru roedd y cynnydd mewn cwynion yn ganlyniad i broses casglu dyledion mwy cadarn, wrth iddyn nhw erlid cwsmeriaid sydd heb dalu eu bil.
Roedd problemau hefyd wrth i'r cwmni gyflwyno system filio newydd.
Cynnydd o 115%
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Mae mwy o gwsmeriaid yn cysylltu â ni trwy e-bost neu ar-lein ar ôl i ni wneud hi'n haws i gwsmeriaid gysylltu â ni ar ein gwefan."
Hawliodd Dŵr Cymru bod nifer y cwynion trwy gyfrwng galwadau ffôn wedi lleihau yn ystod yr un cyfnod.
Yn ôl ystadegau Cyngor y Cwsmeriaid Dŵr roedd Dŵr Cymru wedi gweld cynnydd o 115% mewn cwynion ysgrifenedig - y cwmni cyntaf yn y DU i weld eu cwynion yn dyblu mewn blwyddyn ers 2008.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor y Cwsmeriaid Dŵr, Tony Smith: "Yr hyn sy'n arbennig o frawychus yw'r cynnydd sylweddol mewn cwynion sy'n cael eu hadrodd gan rai cwmnïau.
"Gallwn ni ddim caniatáu i'r cynnydd da a welwyd yn y diwydiant yn ddiweddar gael ei wyrdroi.
"Dyna pam ry'n ni wedi gofyn i'r cwmnïau adrodd yn ôl i ni erbyn diwedd mis Hydref ynglŷn â pha gamau maen nhw'n eu cymryd i leihau nifer y cwynion."