Cynnig mwy o bŵer i'r blaid Lafur yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r blaid Lafur yng Nghymru wedi cael cynnig mwy o bŵer dros ei phenderfyniadau ei hun o dan gynlluniau Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid.
Mae BBC Cymru ar ddeall y cytunodd y pwyllgor yn unfrydol i drosglwyddo'r un pwerau i'r canghennau yng Nghymru ac yn Yr Alban ynghylch materion fel dewis ymgeiswyr ar gyfer etholiadau San Steffan.
Mewn cyfarfod yn Llundain ddydd Mawrth, cytunwyd hefyd y dylai cynrychiolydd o'r pleidiau yng Nghymru a'r Alban eistedd ar y pwyllgor yn y dyfodol.
Mae'r newidiadau yn amodol ar gymeradwyaeth aelodau'r blaid yng nghynhadledd flynyddol y blaid yn Lerpwl yr wythnos nesaf.
'Adlewyrchu realiti datganoli'
Dywedodd Carwyn Jones ei fod wrth ei fodd bod y cynlluniau wedi cael eu cytuno.
"Mae mwy o annibyniaeth i Lafur Cymru yn gam pwysig sy'n adlewyrchu realiti datganoli yng Nghymru," meddai.
"Wrth i ddatganoli aeddfedu ar draws y DU mae hi'n iawn fod ein strwythurau a'n gwleidyddiaeth yn ceisio gweddu â hynny."
Yn ôl un o gyn weinidogion Llywodraeth Cymru, Leighton Andrews fe allai'r blaid Lafur yng Nghymru dorri'n rhydd o'r blaid drwy'r DU petai Jeremy Corbyn yn cael ei ail-ethol yn arweinydd.
Rhannu cyllid
Ar ôl sawl mis o drafod, roedd Pwyllgor Gwaith Llafur Cymru wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer mwy o annibyniaeth yn y cyfarfod diwethaf ar ddechrau mis Medi.
Mae ffynhonnell o'r pwyllgor gwaith yng Nghymru wedi croesawu cymeradwyaeth y pwyllgor cenedlaethol i ddatganoli mwy o rym i Lafur Cymru a chyflwyno strwythur sy'n fwy ffederal.
Ond nid yw'r cynlluniau yn gyfystyr ag annibyniaeth lawn - mae disgwyl y bydd Llafur Cymru yn parhau i rannu cyllid gyda'r blaid yn ganolog.
Os bydd yr aelodau yng nghynhadledd y blaid yn cytuno ar y cynllun, mae BBC Cymru ar ddeall y bydd Pwyllgor Gwaith Llafur Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar fanylion y cynnig gydag aelodau'r blaid.
Mae'r cynnig yn cynnwys:
Trosglwyddo cyfrifoldeb dros ddewis ymgeiswyr Cymreig ar gyfer etholiadau Seneddol yn San Steffan I'r pwyllgor gwaith yng Nghymru;
Byddai'r Pwyllgor Gwaith Cymreig yn gyfrifol am strwythur y blaid yng Nghymru, gweithdrefnau ar gyfer ethol arweinydd Llafur Cymru, yn ogystal â materion disgyblu a chydymffurfio;
Byddai un o Aelodau Cynulliad y blaid yn cynrychioli Llafur Cymru ar y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol. Cafodd y cynnig yma ei gymeradwyo o drwch blewyn - 16 pleidlais i 15.
Bu'r pwyllgor cenedlaethol hefyd yn trafod cynigion ynghylch ffurfio cabinet yr wrthblaid yn San Steffan.
Ar ôl methu â dod i gytundeb ar ôl wyth awr o ddadlau, mae'r penderfyniad ar hynny wedi cael ei ohirio ar gyfer trafodaeth bellach ar y penwythnos.