Diddymu Cymraeg Ail Iaith erbyn 2021, medd Alun Davies

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Alun Davies

Mae'r gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr Iaith Gymraeg wedi cadarnhau fod Llywodraeth Cymru yn anelu i ddiddymu Cymraeg Ail Iaith fel pwnc ymhen pum mlynedd.

Daw hyn yn dilyn pryderon fod oedi wedi bod yn y broses o newid y drefn bresennol.

Fe fydd cymhwyster TGAU Ail Iaith newydd yn cael ei gyflwyno'r flwyddyn nesa gan arwain at bryderon nad ydi'r Llywodraeth o ddifri ynglŷn â sefydlu un ffrwd.

Dywedodd Alun Davies wrth Newyddion 9 y BBC y bydd cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno'r flwyddyn nesaf gyda phwyslais gwahanol ar siarad a defnyddio'r iaith.

Ychwanegodd mai'r nod yn y pendraw yw sefydlu un ffrwd ar gyfer y Gymraeg.

Yn ôl Mr Davies byddai'r TGAU ail iaith newydd yn fodd o 'bontio' rhwng y sefyllfa sydd yna ar hyn o bryd "a ble de' ni gyd eisiau bod, ac rwy'n hyderus na fydd y cyfnod pontio yn gyfnod coll".

Roedd Mr Davies yn siarad ar ôl trafodaeth yn y Cynlluniad Cenedlaethol lle bu Plaid Cymru yn sôn am bwysigrwydd addysg wrth i'r llywodraeth geisio sicrhau eu nod o 1 miliwn o siaradwr Cymraeg erbyn 2050.