Diddymu Cymraeg ail iaith 'yn gam pwysig iawn ymlaen'

  • Cyhoeddwyd
Protest
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod "26,581 o blant yn cael eu hamddifadu" o'r cyfle i fedru'r Gymraeg bob blwyddyn

Mae'r cadarnhad fod Llywodraeth Cymru'n bwriadu cael gwared ar Gymraeg ail iaith wedi ei groesawu gan ymgyrchwyr iaith.

Mewn cyfweliad ar raglen BBC Cymru Y Post Cyntaf, dywedodd Tony Schiavone, cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei fod yn gam pwysig iawn ymlaen.

"Am y tro cyntaf, rydan ni wedi cael datganiad clir iawn o fwriad, a dim bwriad yn unig, ond teimlad clir iawn bod angen newid radical," meddai.

Roedd yn ymateb i sylwadau Alun Davies, y gweinidog sydd â chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg, pan ddywedodd fod Llywodraeth Cymru yn anelu i ddiddymu Cymraeg Ail Iaith fel pwnc ymhen pum mlynedd.

Roedd Mr Davies yn siarad ar ôl trafodaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mercher, pan fu Plaid Cymru yn dadlau fod addysg yn allweddol wrth i'r llywodraeth geisio sicrhau eu nod o filiwn o siaradwr Cymraeg erbyn 2050.

Disgrifiad,

Toni Schiavone ydi cadeirydd grwp addysg Cymdeithas yr Iaith

'Angen cefnogaeth'

Dywedodd Mr Schiavone: "Mae traean o athrawon Cymru yn rhugl yn y Gymraeg a'r mwyafrif helaeth o'r lleill wedi cael gwersi Cymraeg dros y 10 i 12 mlynedd diwethaf.

"Dydyn nhw ddim yn ddi-Gymraeg, maen nhw'n ddi-hyder ac mae angen cefnogaeth a hyfforddiant arnyn nhw i ddefnyddio'r iaith gyda disgyblion.

"Mae angen rhoi'r hyder i'r athrawon a'r ffordd orau o ddysgu iaith yw dysgu iaith i rywun arall.

"Fe all yr ysgolion a disgyblion weld hyn fel her iddyn nhw eu hunain fod yn rhugl o fewn cyfnod penodol o amser.

"Ein nod ni yw sicrhau bod 80% sydd wedi colli allan yn cael y cyfle i ddod yn hyderus yn y Gymraeg. Mae'n bwysig rhoi y gallu i bobl ifanc."