Galw am roi 'cyfle cyfartal' i blant ag anghenion dysgu

  • Cyhoeddwyd
plentyn yn dosbarthFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi dweud bod llawer o blant ag anghenion dysgu ddim yn cael chwarae teg yn yr ysgol.

Dywedodd yr Athro Sally Holland wrth raglen y Post Cyntaf Radio Cymru bod deddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru i geisio mynd i'r afael â'r mater yn "gyfle unwaith mewn cenhedlaeth".

Mae gan bron i chwarter disgyblion Cymru anghenion dysgu ychwanegol o ryw fath.

Ond mae'r broses o asesu plant yn un hir a chymhleth, yn ôl yr Athro Holland, ac mae hi hefyd yn pryderu am y ddarpariaeth iaith Gymraeg.

"Dydi hyn ddim i ddweud fod y sefyllfa yma i blant yng Nghymru yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd i blant ar draws y Deyrnas Unedig, ond yn amlwg dwi'n poeni fod rhai yng Nghymru ddim yn cael chwarae teg," meddai.

System

Dywedodd yr Athro Holland y dylai'r system gael ei symleiddio a bod angen mwy o gynllunio hir dymor hefyd er mwyn sicrhau gweithlu sydd yn meddu ar y sgiliau priodol.

"Mae hwn yn amser tyngedfennol yng Nghymru am ble yr ydym yn rhoi ein hadnoddau, lle'r ydym yn rhoi y cyllidebau sy'n mynd yn llai ac yn llai o ran awdurdodau lleol.

"Rwy'n credu fod rhaid i ni ddarparu'r cyfleoedd gorau posib ar gyfer y plant hyn. Fe ddylai pob plentyn yng Nghymru gael yr hawl cyfartal i gyrraedd eu llawn botensial."

Disgrifiad,

Yr Athro Holland sy'n egluro rhai o'r problemau all godi ynghylch plant ag anghenion dysgu

Dywedodd teulu un plentyn o ogledd Cymru wrth y Post Cyntaf bod eu mab yn cael cymaint o drafferthion yn yr ysgol ei fod wedi gwrthod mynychu am bum mis.

Mae bellach wedi symud i ysgol wahanol, ond maen nhw'n dweud bod ei ysgol flaenorol wedi methu â darparu ar ei gyfer.

Dywedodd tad y plentyn: "Doedd o ddim yn gwybod be i'w wneud hefo fo ei hun, ag yn taflu ei dymer allan ar wahanol bethau - gwneud pethau hollol afresymol.

"Doedd rhywun ddim yn gwybod beth i'w... ond be' oedd - oedd o mewn cymaint o dymer tu mewn oherwydd doedd o methu cael y sylw oedd o ei angen - doedd o methu ymdopi ac roedd o'n gorfod cael y chwalfa 'ma bob yn hyn a hyn."

Cwynion

Dywedodd y tad nad oedd eu cwynion am ddiffyg gofal teg i'w mab wedi cael eu hateb yn briodol: "Deud eu bod nhw'n mynd i edrych mewn i'r peth - a dim ymateb yn dod yn ôl.

"Rhoi cwyn i mewn - cwyn ar ôl cwyn - a dim yn dod allan ohono fo felly."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ein hysgolion a'n hathrawon yn medru darparu ar gyfer gofynion addysg ein holl ddisgyblion gan gynnwys y rheiny ag anghenion arbennig.

"Yn ddiweddar fe wnaethon ni gyhoeddi cynlluniau ar gyfer deddf newydd i drawsnewid disgwyliadau, profiadau a chanlyniadau ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc gydag anghenion dysgu arbennig. Mae swyddfa'r Comisiynydd Plant wedi bod yn cyfrannu i'n gwaith datblygol ni ar y Mesur.

"Mae gan bron i chwarter disgyblion Cymru ryw fath o anghenion dysgu arbennig ar hyn o bryd ac fe fydd y Mesur yn amddiffyn a chryfhau hawliau'r grŵp sylweddol hwn."