Dathlu Cymreictod ar draws y byd
- Cyhoeddwyd
Mae 'na Gymry, yn sicr, i'w gweld ym mhob man. Rydyn ni ym mhedwar ban byd - yno ar ein gwyliau, neu'n byw dramor.
Ar draws y byd, mae yna ddegau o gymdeithasau Cymreig - grwpiau o bobl o Gymru, o dras Cymreig, neu â diddordeb yn ein gwlad sy'n cwrdd yn gyson i wneud pethau 'Cymreig' ac i ddathlu'n gwlad fach, ei hiaith a'i diwylliant.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs ag aelodau o rai o'r cymdeithasau yma, a gofyn iddyn nhw pam fod cymunedau fel hyn mor bwysig:
Asia
Mae Rico Dent, yn wreiddiol o Gyffordd Llandudno, ond bellach yn byw yn Kuala Lumpur, Malaysia ac yn aelod o Gymdeithas Dewi Sant Malaysia:
"'Nes i symud i Malaysia 14 o flynyddoedd yn ôl gyda fy nghariad (bellach fy ngwraig) er mwyn 'trio' gweithio yn Asia. 'Da ni dal yma, a nawr mae ganddon ni ddau o blant sy'n mynd i ysgol Brydeinig ryngwladol.
"Cafodd Cymdeithas Dewi Sant Malaysia ei sefydlu yn 1963, fel 'cartref i ffwrdd o gartref' ar gyfer y Cymry yn Kuala Lumpur. 'Nes i ymuno oherwydd ychydig o hiraeth, ac oherwydd mod i eisiau cadw'r cysylltiad Cymreig yn fyw, er mwyn rhoi cysylltiad Cymreig i'r plant.
"Mae'n digwyddiadau ni'n amrywiol. Rydyn ni'n cynnal nifer o nosweithiau cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn ac mae'r pwyllgor yn cyfarfod rhyw unwaith y mis.
"Rydyn ni'n cynnal digwyddiadau fel dydd yn y rasys a tug of war yn yr Highland Games - ond y prif ddigwyddiad yw'r cinio Gŵyl Ddewi blynyddol, a'r uchafbwynt yw Tony Warren - y dynwaredwr Tom Jones gorau yn Asia!! Rydyn ni'n cyfarfod er mwyn gwylio'r rygbi a'r pêl-droed ac rydyn ni'n helpu elusennau lleol, fel ysgolion ar gyfer ffoaduriaid yma ym Malaysia.
"Mae'n llawer o hwyl, ac yn braf cael cyfle i ddod at ein gilydd."
De America
Mae pawb yn gwybod am yr Archentwyr Cymreig sy'n byw ym Mhatagonia, ond mae yna hefyd gymdeithas frwd o bobl sy'n hoffi cymdeithasu yn Gymraeg ym Mendoza - dinas sydd gannoedd o filltiroedd i'r gogledd o Batagonia.
Penderfynodd Dario Trombotto a'i gyfeillion sefydlu fforwm Amddiffyn Draig Patagonia yn 2009.
Meddai Dario: 'Dyn ni'n grŵp o ffrindiau sy'n angerddol am y diwylliant Celtaidd Cymraeg. Mae bron pob un yn wreiddiol o Batagonia ac â chysylltiad Cymreig - heblaw amdanaf i."
Er nad oes gan Dario gysylltiad teuluol Cymreig, mae wedi bod â diddordeb mewn pethau Celtaidd ers ei arddegau; y llenyddiaeth, archaeoleg a'r ieithoedd. Mae ganddo hefyd ddiddordeb mawr yn y Mabinogion, ac wedi ymweld â Chymru dipyn o weithiau.
Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn ystod y nawdegau ym Mhorth Madryn, ac mae'r gymdeithas wedi bod yn gymorth wrth iddo geisio parhau i ymarfer a defnyddio ei Gymraeg.
"'Dyn ni'n mwynhau hanes, canu yn Gymraeg, bwyta cacennau a dysgu Cymraeg, ond rydyn ni'n dysgu ar ein pennau ein hunain. Rydyn ni'n cynnal Te Gŵyl y Glaniad bob blwyddyn ar 28 Gorffennaf.
"Ac ar hyn o bryd, rydyn ni'n gwylio Y Gwyll - sydd yn ffantastig!"
Affrica
Mae Rod Solomon, sy'n wreiddiol o Johannesburg, wedi bod yn aelod o adran fas Côr Meibion Cymru, De Affrig, ers 16 o flynyddoedd. Ef bellach hefyd yw Cadeirydd y côr gafodd ei sefydlu yn 1978:
"Mae dros 40 o aelodau yn y côr y dyddiau yma - ond mae nifer y Cymry wedi gostwng yn sylweddol - yn bennaf, mae'n siŵr oherwydd sefyllfa wleidyddol y wlad dros y blynyddoedd.
"Tri Chymro sydd yn y côr ar hyn o bryd, ond er mai o De Affrica mae'r gweddill ohonon ni, rydyn ni wedi datblygu cysylltiad a chariad tuag at Gymru a chanu Cymreig a Chymraeg. Ry'n ni wedi perfformio mewn dros fil o gyngherddau ers i'r côr ddechrau."
"Rydyn ni'n cynnal cyngherddau yn bennaf i godi arian i sefydliadau elusennol neu addysgiadol.
"Uchafbwynt bob blwyddyn yw'r cyngerdd Gŵyl Ddewi, ble rydyn ni'n perfformio gyda nifer o artistiaid gwadd - yn unawdwyr a cherddorfeydd. Cyngerdd 2008 sy'n sefyll yn y cof, oherwydd fod Alwyn Humphreys wedi dod draw o Gymru i'n harwain. Mae bellach yn un o Lywyddion Anrhydeddus y côr.
"Mae ganddon ni repertoire eang o ganeuon o wahanol genres ac ieithoedd, ond rydyn ni'n sicrhau fod traean ein caneuon ni mewn cyngherddau yn Gymraeg. Wrth gwrs, traddodiad corawl Gymreig sy'n parhau wrth galon y cwbl, ac rydyn ni mor falch o hynny."
Gogledd America
Mae David Llewelyn Williams yn wreiddiol o Brestatyn, ond mae wedi byw yn Vancouver ers 1960, ble bu'n Athro yn yr adran ffiseg ym Mhrifysgol British Columbia tan iddo ymddeol yn 2002. Daeth yn aelod o Gymdeithas Gymreig Vancouver yn 2000, ac mae wedi bod yn Llywydd ers 2013:
"Rydyn ni'n cynnal digwyddiadau rheolaidd, fel gwasanaeth Capel dwyieithog, grwpiau sgwrsio Cymraeg, gwersi Cymraeg ac ambell i dwmpath. Ddechrau Tachwedd, rydyn ni'n cynnal penwythnos o 'ddathlu Cymru' - penwythnos o siarad Cymraeg, te bach, cymanfa ganu a hwyl!
"Mae gennym ni hefyd grŵp canu - Cambrian Circle Singers - ddechreuodd yn 1980, fel grŵp oedd yn perfformio caneuon gwerin Cymraeg o'r 18fed a'r 19eg ganrif, ac yn gwisgo dillad o'r un cyfnod. Er fod y repertoire wedi ehangu erbyn heddiw, mae hanner eu caneuon yn parhau i fod yn rhai Cymraeg. Cafodd Côr Meibion Cymreig Vancouver hefyd ei sefydlu gan aelodau o'r Gymdeithas, nôl yn yr 1980au.
"Ni yw'r unig gymdeithas Gymreig yng Ngogledd America sydd â'i neuadd ei hyn - Neuadd Cambrian, sef neuadd a gafodd ei hadeiladu yn 1929 gan Gymry a ymsefydlodd yma. Dyma ble mae'n rhan fwyaf o'n digwyddiadau yn cael eu cynnal.
"Mae edrych ar ôl y neuadd yn waith trwm, ac mae'n haelodaeth yn heneiddio - ond rydyn ni 'yma o hyd' ac yn hapus i groesawu Cymry yma pob amser."
Ewrop
Mae John Elwyn Jones yn wreiddiol o Aberystwyth ond bellach yn gadeirydd brwdfrydig ar Gymdeithas Gymreig Oslo:
"Rydw i wedi bod yn byw yn Oslo ers 11 o flynyddoedd. Ymunais â'r gymdeithas ar ôl i mi glywed amdani gan ffrind o Loegr oedd yn byw yma.
"Rydyn ni'n cwrdd bob yn ail fis fel arfer, i wneud amryw o wahanol ddigwyddiadau.
"Wrth gwrs, rydyn ni'n cyfarfod i wylio Cymru yn chwarae rygbi, ond rydyn ni hefyd yn cwrdd i wneud pethau eraill, fel dysgu am bobi bara, bragu cwrw neu wneud wyau Pasg gyda'r plant. Eleni, aeth criw ohonon ni i weld cyngerdd Bryn Terfel, pan oedd yn perfformio yma ym mis Mehefin.
"Rydyn ni hefyd yn cwrdd am bryd o fwyd i ddathlu'r Nadolig, a'n cinio Gŵyl Ddewi yw'r uchafbwynt bob blwyddyn - digon o fwyd a diod Cymreig a llawer o hwyl!"
Awstralasia
Mae Margot Griffith yn athrawes ac yn dod o Lan-y-fferi, Sir Gâr yn wreiddiol, ond wedi byw yn Wellington, Seland Newydd ers 1972. Hi yw Dirprwy Lywydd Cymdeithas Gymreig Wellington - cymdeithas a gafodd ei sefydlu yn 1907 gan hanner dwsin o Gymry.
"Roeddwn i wir yn gwerthfawrogi'r cyfeillgarwch gwresog, mor bell o gartref, oedd mor bwysig wrth i mi ddod i arfer â gwlad newydd ar ddechrau'r 70au. Roedd fy ngŵr yn ganwr da, ac fe ddaeth o hyd i wŷr tebyg eraill oedd wrth eu boddau yn canu'r hen glasuron Cymreig - y ffefryn oedd Myfanwy!
"Rydyn ni'n cyfarfod yn fisol, gyda sgyrsiau, cwisys, picnic a mwy. Rydyn ni'n hoffi trefnu teithiau pan mae rhai o sêr Cymry yn dod yma i berfformio. Mae'r rygbi, yn amlwg, hefyd yn bwysig - ac fe aeth criw o'r gymdeithas i'r maes awyr i groesawu tîm rygbi Cymru pan ddaethon nhw yma ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn 2011.
"Ac wrth gwrs, rydyn ni wrth ein boddau gyda chymanfa ganu. Cawson ni ein pedwerydd cymanfa yma yn y brifddinas eleni, ble daeth dros 800 o bobl ynghyd i Eglwys Gadeiriol St Paul, o Seland Newydd a thu hwnt. Cafodd organ yr eglwys ei difrodi yn y daeargryn diweddar.
"Mae Dydd Gŵyl Dewi yn amlwg yn achlysur pwysig i'r Gymdeithas. Mae 'unig dafarn Cymreig hemisffer y de' - Welsh Red Dragon bar, yn Wellington - hefyd yn dathlu'r dydd, gyda ffagots â phys ar y fwydlen a chystadleuaeth bwyta cennin.
"Rydw i yn hoffi mynd â chacennau cri i'r gwaith, ac yn llefaru'r wyddor o flaen bob dosbarth, ac wrth gwrs yn sgrifennu Llanfairpwllgwyngyllgogeryschwyrndrobwyllllantysiliogogogoch ar y bwrdd du!"