Heddlu yn cyhoeddi enw dynes a fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau enw'r ddynes a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar y B4557 yng Ngwynedd dydd Gwener.
Bu farw Susan Jane Owen; 50 oed o Bentreberw, Gaerwen, Ynys Môn yn dilyn y gwrthdrawiad ym mhentref Pentir ger Y Felinheli.
Mae ei gŵr, Rem Owen, wedi rhoi'r deyrnged ganlynol: "Wedi colli gwraig, cariad a ffrind gorau yn y byd. Fydd yna wagle mawr yn fy mywyd ar ei hol.
"Mor falch fy mod i wedi bod mor lwcus i fwynhau ei chwmni fel fy ngwraig am 28 mlynedd. 28 mlynedd o fagu dau fab oedd yn sêr yn llygaid eu mam."
Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio am dystion i'r gwrthdrawiad ddigwyddodd tua 12:46 ddydd Gwener.
Y gred yw bod eitem wedi disgyn o do fan VW Transporter, gan daro car BMW gwyn oedd yn teithio i'r cyfeiriad arall.
Roedd y fan yn teithio o gylchfan Groeslon Tŷ Mawr i gyfeiriad Y Felinheli.