Beth yw Adroddiad Diamond?
- Cyhoeddwyd
Ar drothwy cyhoeddi adroddiad yr Athro Syr Ian Diamond ar ddyfodol ariannu myfyrwyr a phrifysgolion Cymru, gohebydd addysg BBC Cymru Bethan Lewis sy'n crynhoi'r cefndir.
Beth yw Adroddiad Diamond?
Adroddiad ar y drefn ar gyfer ariannu myfyrwyr a phrifysgolion Cymru. Ar ddiwedd 2013 dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r Athro Syr Ian Diamond - Is-ganghellor Prifysgol Aberdeen - yn cynnal adolygiad o'r system oherwydd y newidiadau mawr oedd yn wynebu prifysgolion. Dechreuodd ei waith yn Ebrill 2014 gyda phanel o arbenigwyr.
At brifysgolion yn y man, ond faint mae myfyrwyr yn gorfod talu i wneud gradd?
Hyd at £9,000 y flwyddyn. Ond mae Llywodraeth Cymru yn talu y rhan fwyaf o'r swm yna dros fyfyrwyr o Gymru, ble bynnag maen nhw'n astudio ym Mhrydain. Fe all y myfyriwr fenthyg £3,900 tuag at y ffioedd ac mae'r llywodraeth yn rhoi grant am y gweddill (hyd at £5,100). Does dim angen talu'r grant yn ôl. Rhaid dechrau talu'r benthyciad ar ôl graddio ac ennill cyflog o £21,000.
Sut mae hynny'n cymharu â myfyrwyr o weddill Prydain?
Does 'na ddim grantiau ffioedd yn Lloegr - rhaid i fyfyrwyr fenthyg y £9,000 cyfan. Dydy myfyrwyr o'r Alban ddim yn talu ffioedd os ydyn nhw'n aros yn yr Alban i astudio. Yng Ngogledd Iwerddon, y gost yw £3,925 os yn aros yn y wlad, a £9,000 os yn astudio yng ngweddill Prydain.
Talu am y cwrs ond talu am fwyd a rhent hefyd - oes help gyda hynny?
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig grantiau i'r rheiny sydd ag incwm teuluol isel. Mae pawb yn gallu benthyg o leiaf £4,637 y flwyddyn - mwy os ydych chi'n astudio yn Llundain ac o deulu tlotach.
Pam mae 'na alw i'r drefn yng Nghymru newid?
Mae'n ddrud. Talwyd £238m fel Grant Ffioedd Dysgu yn 2014-15. Mae hynny tua dau draean o'r gost o ariannu holl feddygfeydd Cymru. Mae toriadau i gyllidebau'r llywodraeth wedi cynyddu'r pwysau i edrych eto ar y polisi. Ar yr un pryd, mae prifysgolion Cymru'n dadlau bod y grantiau sy'n cael eu talu i fyfyrwyr Cymreig sy'n astudio yn Lloegr yn golygu bod addysg uwch yng Nghymru yn colli degau o filiynau o bunnau'r flwyddyn. Mae 'na newidiadau yn digwydd yn Lloegr, gan gynnwys penderfyniad i ganiatáu prifysgolion i godi mwy na £9,000 am eu cyrsiau, a hynny'n ychwanegu mwy o ansicrwydd i'r drefn.
O ble mae prifysgolion yn cael eu harian?
Mae cyfran sylweddol yn dod o ffioedd dysgu. Daw arian hefyd gan gyrff sy'n ariannu ymchwil a thrwy ffynonellau preifat, a gan Lywodraeth Cymru drwy'r Corff Ariannu Addysg Uwch (HEFCW). Mae'r ffrwd yma wedi cael ei wasgu, meddai'r prifysgolion a hynny achos cost gynyddol y grant sy'n dod allan o'r un gronfa addysg uwch. Pwrpas yr arian gan HEFCW yw cyfrannu at ymchwil, cyrsiau mwy drud fel meddygaeth, darpariaeth rhan amser, ôl-raddedig a chyfrwng Cymraeg. Ac felly, meddai'r prifysgolion, mae rhai o'r meysydd yma'n dioddef.
Beth mae'r Athro Diamond wedi dweud hyd yma?
Yn Rhagfyr 2015 cyhoeddodd adroddiad yn crynhoi'r dystiolaeth roedd yr adolygiad wedi ei dderbyn. A'r brif neges, nad yw cynnal y sefyllfa bresennol yn opsiwn. Dywedodd hefyd bod nifer o'r rhai oedd wedi cyfrannu at yr adolygiad yn credu bod pwysau talu am gostau byw yn fwy o flaenoriaeth na chymorth gyda ffioedd. Ac yn ôl ymchwil i'r adolygiad dyw'r grant ffioedd dysgu ddim wedi cael effaith amlwg ar gefndiroedd a natur y rheiny sy'n mynd i brifysgol - hynny yw, prin yw'r dystiolaeth ei fod wedi denu mwy o fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig i mewn i addysg uwch.
A beth am Lywodraeth Cymru?
Mae'r pwyslais yn sicr wedi newid dros y misoedd diwethaf. Ym mis Ionawr 2016 dywedodd y Gweinidog Addysg Llafur ar y pryd, Huw Lewis, y dylid cadw'r grant ffioedd dysgu. Erbyn etholiad y Cynulliad ym mis Mai, doedd Llafur ddim yn addo cadw'r polisi, ond yn hytrach: "Pecyn gwell o gymorth i fyfyrwyr na'r hyn sy'n cael ei gynnig yn Lloegr, yn seiliedig ar argymhellion Adolygiad Diamond". Ond Democrat Rhyddfrydol sy'n gyfrifol am addysg ers yr etholiad ar ôl i Carwyn Jones wahodd Kirsty Williams i'r Cabinet fel Ysgrifennydd Addysg. Cyn yr etholiad roedd hi'n dadlau dros ddiddymu'r grant ffioedd dysgu a sefydlu grant i helpu gyda chostau byw.
Beth mae cyrff eraill yn y maes eisiau ei weld gan Adroddiad Diamond?
Diwedd y grant ffioedd dysgu, rhoi mwy o gymorth i'r myfyrwyr tlotaf a mwy o arian i brifysgolion - dyna'r neges gan benaethiaid addysg uwch. Cymorth gyda ffioedd a chostau byw, meddai undeb y myfyrwyr. Mae Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a UKIP yn dweud bod angen newid sylfaenol i'r drefn bresennol.
Pryd fyddai unrhyw newidiadau yn cael eu cyflwyno?
Mae'n dibynnu ar yr amserlen yn yr adroddiad, ac ymateb y Llywodraeth. Bydd 'na ddim newid yn syth ac mae'n debygol y bydd o leiaf dwy flynedd cyn i unrhyw newidiadau gael eu cyflwyno.