Cyngor Môn ddim am gasglu cewynnau plant dros 3 oed

  • Cyhoeddwyd
plentynFfynhonnell y llun, Thinkstock

Ni fydd un cyngor sir yn cynnig gwasanaeth casglu cewynnau budur ar gyfer plant dros dair oed, gan ddweud y dylai'r rhan fwyaf fod wedi eu hyfforddi i ddefnyddio toiled bach erbyn yr oedran hwnnw.

Bydd rhaid i rieni ddangos tystysgrifau geni i brofi cymhwysedd ar gyfer y cynllun dwy-wythnosol newydd ar Ynys Môn.

Daw'r cynllun i rym ym mis Hydref, pan fydd casgliadau gwastraff cyffredinol - sydd fel arfer yn cael gwared ar gewynnau - yn newid i bob tair wythnos.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y bydd gwasanaeth ar wahân ar gyfer plant ag anableddau.

Fe ddefnyddiodd yr awdurdod lleol ffynonellau, gan gynnwys y GIG, sy'n dweud fod 90% o blant yn gallu defnyddio toiledau bach erbyn yr oedran hwn.

"Mae tystiolaeth a gasglwyd gan ein tîm rheoli gwastraff yn awgrymu bod y rhan fwyaf o blant yn gallu defnyddio'r poti rhwng dau a thair oed," meddai'r llefarydd.

"Rydym, felly, wedi cytuno i gynnig y gwasanaeth casglu cewynnau newydd hyd nes trydydd pen-blwydd y plentyn."

Tystysgrifau

Dywedodd y byddant yn gofyn am dystysgrifau geni i ganiatáu i'r cyngor i fesur faint o bobl oedd yn defnyddio'r cynllun - a fydd ond ar gael o gartrefi ac nid meithrinfeydd.

Bydd rhaid i rieni gael ffurflen gais o swyddfeydd y cyngor a'i chyflwyno ynghyd â chopi o'r dystysgrif geni.

Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn ailgylchu 59% o'i wastraff, a dweud y bydd effaith y cynllun newydd yn cael ei fesur dros y misoedd nesaf.

Gall rhieni plant sydd â chyflyrau meddygol sydd dros dair oed wneud cais i ddefnyddio gwasanaeth gwaredu ar wahân.