Teyrnged i ferch 14 oed fu farw wedi argyfwng meddygol

Seren JenkinsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Seren Jenkins ei bod "yn cael ei charu gan bawb oedd yn ei hadnabod"

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu merch 14 oed fu farw yn dilyn argyfwng meddygol yn Rhydaman wedi rhoi teyrnged i "ferch a chwaer annwyl".

Bu farw Seren Jenkins o Dŷ-croes, Rhydaman wedi i'r heddlu gael eu galw i adroddiad o argyfwng meddygol yng nghlwb rygbi'r dref nos Wener ddiwethaf.

Cafodd ei chludo i'r ysbyty ar ôl cael ei tharo'n wael, ond bu farw yn ystod oriau mân fore Sadwrn.

Dywedodd ei theulu eu bod yn "anobeithio o golli ein Seren".

"Roedd hi'n ferch, chwaer fach a chwaer fawr annwyl," meddai eu datganiad.

"Fe wnaeth Seren fyw ei bywyd byr i’r eithaf ac roedd â'i bryd ar fod yn artist, roedd hi'n chwaraewr rygbi ac roedd hi'n caru'r cyfryngau cymdeithasol.

"Roedd Seren yn cael ei charu gan bawb oedd yn ei hadnabod ac fe fydd hi'n cael ei chofio hefyd am ei synnwyr digrifwch.

"Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r gwasanaethau brys, a phawb am y rhoddion i'r dudalen codi arian ar gyfer Seren.

"Bydd yr elw yn siŵr o gael ei roi i wahanol wasanaethau asthma, Ambiwlans Awyr Cymru, a chofeb bosib i'w ffrindiau i gofio amdani."

Pynciau cysylltiedig