Rôl llywydd undeb myfyrwyr Cymraeg hynaf Cymru 'yn ddiogel'

- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth wedi cadarnhau bod rôl llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg hynaf Cymru - UMCA – yn ddiogel.
Mewn datganiad dywedodd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth bod y Bwrdd Ymddiriedolwyr wedi penderfynu “parhau a’r trefniant presennol o gael Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA.”
Daw wedi pryderon bod yr Undeb yn ystyried cael gwared ar un o bum swyddog etholedig llawn amser oherwydd toriadau ariannol.
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2024
Dywedodd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth: "Fel rhan o'r ymgynghoriad presennol ar rolau swyddogion llawn amser o fewn Undeb y Myfyrwyr, rydym wedi penderfynu mynd i'r afael ag un agwedd benodol o’r adolygiad ar wahân.
"Daw'r penderfyniad cynnar hwn fel ymateb i bryderon a fynegwyd gan ein haelodau am ddyfodol rôl Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA.
“O ganlyniad i gefnogaeth glir ac unfrydol a fynegwyd yn ystod ein proses ymgynghori, mae'r Bwrdd Ymddiriedolwyr wedi penderfynu parhau â'r trefniant presennol."
Ychwanegodd eu bod yn “falch o'r cyfraniad cyfoethog” mae UMCA wedi'i wneud i “ddiwylliant a bywyd Cymreig yn Aberystwyth a thu hwnt dros yr hanner canrif ddiwethaf.”
Fe wnaeth yr undeb gadarnhau bod yr “angen parhaol” am rôl Swyddog Diwylliant Cymrieg a Llywydd UMCA yn “flaenoriaeth”.