Dau'n cyfaddef smyglo miloedd o fudwyr o Ewrop i'r DU
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn oedd yn gwadu bod yn rhan o gynllwyn i smyglo cannoedd o fewnfudwyr yn anghyfreithlon i'r DU o Ewrop wedi newid eu ple a phledio'n euog.
Fe gafodd Dilshad Shamo, 41, ac Ali Khdir, 40, o Gaerffili, eu cyhuddo o symud cannoedd o bobl mewn ceir, lorïau a chychod i'r DU o Irac, Iran a Syria.
Fe ddigwyddodd y troseddau rhwng Hydref 2022 ac Ebrill 2023, pan gafodd y dynion eu harestio gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA).
Roedd y ddau wedi pledio'n ddieuog yn wreiddiol i gyhuddiadau o gynllwynio i dorri rheolau ymfudo'r Eidal, Romania, Croatia a'r Almaen er mwyn dod â'r mewnfudwyr i Ewrop a'r DU.
Ond ar ddechrau ail wythnos yr achos yn eu herbyn yn Llys y Goron Caerdydd fe newidiodd y diffynyddion eu ple a chyfaddef i bum cyhuddiad.
'Trip Advisor smyglwyr'
Mae'r NCA wedi dweud wrth y BBC bod Shamo a Khdir, oedd yn gweithio o safle glanhau cerbydau yng Nghaerffili, wedi gweithredu fel pe tasen nhw'n rhedeg busnes trefnu teithiau.
Roedden nhw wedi hysbysebu eu gwasanaethau i bobl oedd eisiau ymfudo mewn modd y mae'r asiantaeth yn ei disgrifio fel "Trip Advisor smyglwyr".
Roedd mudwyr o'r Dwyrain Canol ar eu ffordd i Ewrop yn gwerthuso eu teithiau mewn fideos a gafodd eu ffilmio o lorïau, cychod neu awyrennau.
Mewn un fideo mae dyn yn gofyn "Sut oedd y daith, bechgyn?" ac mae person arall yn ateb trwy godi bawd o gefn y lori.
Dros gyfnod o ddwy flynedd, fe ddaeth y smyglwyr ag oddeutu 100 o fudwyr yr wythnos yn anghyfreithlon i Ewrop.
Roedden nhw'n cynnig pecynnau platinwm, aur, arian ac efydd, gan ddibynnu ar lefel y risg.
Roedd y pecynnau drytaf, oedd yn costio rhwng £10,000 a £25,000, yn sicrhau hediad a phasport ffug.
Roedd rhwng £8,000 a £10,000 yn prynu pecyn aur a thaith ar gwch, a'r pecynnau rhataf, ar gost o £3,000 i £5,000, yn golygu teithio ar lori neu gerbyd llai.
Daeth ymchwiliwyr ar draws y fideos gwerthuso ar ffonau'r smyglwyr eu hunain, o bosib yn sail deunydd hyrwyddo'u gwasanaethau.
Dywed yr NCA bod y ddau ddiffynnydd yn smyglo mudwyr fel rhan o giang ehangach ac yn "byw bywyd dwbl" wrth redeg y busnes glanau ceir yng Nghaerffili.
Fe gafodd yr asiantaeth gymorth gan Heddlu Gwent wrth iddyn nhw fonitro gweithgaredd y ddau a chasglu tystiolaeth i'w herlyn.
Llwyddodd yr asiantaeth i olrhain y smyglwyr wedi i rywrai roi gwybodaeth hanfodol iddyn nhw, a recordio rhai o'u sgyrsiau ffôn heb yn wybod iddyn nhw.
Fe gawson nhw eu cyhuddo ym mis Chwefror, gan bledio'n ddieuog yn wreiddiol.
Roedd Llys y Goron Caerdydd wedi clywed 10 diwrnod o dystiolaeth cyn iddyn nhw newid eu ple a phledio'n euog i'r holl gyhuddiadau yn eu herbyn.
Fe fydd gwrandawiad pellach yn cael ei gynnal ddydd Llun 25 Tachwedd cyn iddyn nhw gael eu dedfrydu.