Gadaffi: Dim cofnod o unrhyw daliad medd Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Plaid Cymru dderbyn rhodd o £25,000 gan gyn-arweinydd Libya, Muammar Gaddafi yn y 1970au, yn ôl honiadau newydd.
Dywedodd Dr Carl Clowes, a aeth ar daith i Libya gydag aelodau'r blaid yn 1976 ar wahoddiad yr Undeb Sosialaidd Arabaidd, bod yr arian wedi cael ei dalu yn dilyn yr ymweliad.
Roedd cefnogwyr y blaid wedi mynd i'r wlad yng ngogledd Affrica er mwyn dysgu mwy am y gyfundrefn wleidyddol yno.
Ond mae Plaid Cymru wedi dweud nad oes unrhyw gofnod eu bod wedi derbyn rhodd ariannol o'r fath.
Libya 'eisiau helpu'
Fe wnaeth Dr Clowes yr honiadau yn ei hunangofiant newydd, 'Super Furries, Prins Seeiso, Miss Siberia - a fi', sydd yn cael ei chyhoeddi gan wasg Y Lolfa.
Roedd yn un o bedwar aelod o'r blaid aeth ar y daith, ynghyd â Dr Phil Williams, Brian Morgan Edwards, a John Lewis.
Dywedodd wrth raglen Post Cyntaf Radio Cymru bod llywodraeth Gaddafi wedi cydymdeimlo ag amcanion gwleidyddol Plaid Cymru ar y pryd.
"Roedd ganddyn nhw ddyheadau i ddymchwel y drefn gyfalafol yn y gorllewin, ac yn amlwg roedd Plaid Cymru yn blaid sosialaidd ac roedden nhw'n awyddus i weld beth oedd gennym ni i'w ddweud," esboniodd Dr Clowes.
Dywedodd bod un o swyddogion Libya wedi dweud wrth y grŵp y bydden nhw'n "gweld sut allwn ni eich helpu chi", heb ymhelaethu ymhellach.
Ar ôl dychwelyd i Gymru, meddai, "dyma Brian yn datgelu'r ffaith bod £25,000 wedi cyrraedd, ac roedd Brian yn drysorydd [ar y blaid] yn y cyfnod hwnnw".
Mynnodd Dr Clowes fod yr ymweliad yn un cyfiawn, er gwaethaf pryderon bod Gaddafi yn ariannu grwpiau terfysgol fel yr IRA.
"Dyma wlad oedd efo'r drefn addysg a'r drefn iechyd orau yn Affrica ar y pryd," meddai.
"[Roedden ni eisiau gweld] sut oedden nhw wedi sicrhau bod yr adnoddau oedd ganddyn nhw - olew yn bennaf - ddim wedi cael ei ecsbloetio cymaint gan gyrff mawr o'r tu allan."
Ychwanegodd nad oedd ganddo unrhyw dystiolaeth bellach o'r taliad oni bai am yr hynny a ddywedodd Brian Morgan Edwards wrtho.
Mae Dr Clowes, 72, bellach yn aelod o fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn Gonswl Anrhydeddus Cymru i Lesotho. Mae'n dad i ddau o aelodau'r Super Furry Animals, Cian Ciaran a Dafydd Ieuan.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Fe roddwyd tipyn o sylw i'r trip i Libya ar y pryd ac ers hynny. Does dim cofnod nag atgof o gwbl o unrhyw rodd o'r fath yn cael ei wneud i Blaid Cymru."
Ychwanegodd cyn-ysgrifennydd cyffredinol y blaid, Dafydd Williams nad oedd "unrhyw rodd o'r fath" wedi cael ei roi gan lywodraeth Gaddafi.
"Roedden ni'n gyfrifol ar y pryd am dderbyn yr holl arian oedd yn dod i Blaid Cymru a'i fancio. Ni chafodd rhodd o'r fath ei wneud," meddai.
"Mae'n bur debygol bod pobl wedi bod yn dyfalu. Fe allwch chi'n sicr ddychmygu'r math yna o sgyrsiau yn digwydd."
Mae Llafur Cymru wedi ymateb i'r honiadau, gyda ffynhonnell yn dweud wrth y Western Mail ei bod hi'n "syfrdanol" bod "gwleidyddion Plaid Cymru wedi bod yn closio at unben creulon".
Ond fe ddywedodd Dr Clowes yn ei gyfweliad â'r Post Cyntaf nad oedd gwleidyddiaeth "yn fêl i gyd", a bod nifer o ffigyrau amlwg eraill gan gynnwys y cyn-brif weinidog Llafur, Tony Blair, yn "anwesu Gaddafi fel rhyw gyfaill mawr".
'Rhoi'r arian yn ôl'
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies wedi galw am ymchwiliad i'r honiadau, gan ychwanegu y dylai'r blaid dalu'r arian yn ôl i bobl Libya os yw'n wir.
"Fe wnaeth cyn arweinydd y blaid, Elfyn Llwyd alw am ymchwiliad llawn i fusnes ariannol Tony Blair gyda llywodraeth Gaddafi," meddai.
"Fydd Plaid nawr yn ymrwymo i'r un lefel o dryloywder ar gyfer eu materion ariannol eu hunain a chynnal ymchwiliad annibynnol?
"Yn y pen draw, os yw'r sibrydion yn wir rwy'n siŵr y bydd y blaid yn awyddus i roi'r arian yn ôl i bobl Libya."