Carchar am dorri clustiau ci gyda gefail

  • Cyhoeddwyd
ci

Mae dyn aeth ati i dorri clustiau ei gi gyda gefail wedi ei garcharu am 24 wythnos.

Fe gafwyd Christopher Griffiths, 35 oed, o Wrecsam, yn euog o achosi dioddefaint diangen ac o berfformio triniaeth oedd wedi ei gwahardd.

Fe glywodd Llys Ynadon Wrecsam sut gafodd y daeargi Sir Stafford - Victor, ei boenydio gan Griffiths oedd yn defnyddio "math o efail".

Dywedodd arolygydd yr RSPCA Kia Thomas: "Roedd mor dorcalonnus Mae'n ofnadwy i ddychmygu beth ddigwyddodd i Victor."

Mae Griffiths hefyd wedi ei wahardd rhag cadw cŵn am 10 mlynedd a rhoddwyd gorchymyn profiannaeth 12 mis iddo.

Cysylltodd yr RSPCA gyda'r heddlu ar 22 Medi 2015, ar ôl darganfod Victor gyda'i glustiau wedi'u torri i ffwrdd.

Aethpwyd ag ef at filfeddyg a berfformiodd llawdriniaeth ar ei glustiau a phwytho'r clwyfau. Yn ystod y driniaeth, daethpwyd o hyd i gocên yn system Victor.

Ychwanegodd yr Arolygydd Thomas: "Pan welais i Victor am y tro cyntaf, roeddwn wedi dychryn gyda'r clwyfau agored ger ei glustiau, dydw i erioed wedi gweld dim byd tebyg iddo o'r blaen..

"Ers Victor fod yn ein gofal, mae wedi bod yn gwneud yn dda. Mae'n gi annwyl gyda llawer o gariad i'w roi.

Bydd Victor yn cael ei ailgartrefu.