'Gorfodi siaradwyr Cymraeg i droi i'r Saesneg' yng ngharchar y Berwyn

carchar berwyn Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Agorodd Carchar y Berwyn yn 2017

  • Cyhoeddwyd

Mae staff yng ngharchar mwyaf Cymru yn gorfodi siaradwyr Cymraeg i droi i'r Saesneg, yn ôl rhai o'r cyn-garcharorion.

Wrth siarad ag ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Lerpwl, dywedodd nifer o gyn-garcharorion fod yna "elyniaeth lwyr tuag at yr iaith gan staff" yng Ngharchar y Berwyn, Wrecsam.

Dywedodd un ei fod wedi cael rhybudd i beidio â siarad Cymraeg yn ystod cyfarfod gyda'i gyfreithiwr oedd i fod yn breifat a chyfrinachol.

Mae llefarydd ar ran y carchar wedi dweud eu bod yn "croesawu'r defnydd o'r iaith Gymraeg gan garcharorion, ymwelwyr a staff, ac yn cymryd pob cwyn o ddifrif".

Ond mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud bod yr ymchwil yn "achosi pryder, ac yn awgrymu nad yw hawliau sylfaenol siaradwyr Cymraeg yn cael eu hystyried yn ddigonol".

Carchar y BerwynFfynhonnell y llun, Nick Dann/Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Mae lle i 2,100 o garcharorion yng ngharchar y Berwyn

Mae gan garcharorion yng Nghymru yr hawl i siarad Cymraeg ac mae'r Gwasanaeth Carchardai wedi ymrwymo i "greu amgylchedd dwyieithog" ac i "hyrwyddo hawliau carcharorion sy'n siarad Cymraeg" yn ôl eu cynllun iaith.

Ond yn eu hymchwil mae Dr Robert Jones a Dr Gregory Davies yn honni "ei bod yn amlwg nad yw'r iaith Gymraeg yn cael ei thrin ar sail cydraddoldeb gyda'r Saesneg yn y Berwyn" a bod "plismona'r Gymraeg gan staff y Berwyn wedi amlygu ei hun fel thema gyson drwy gydol ein cyfweliadau".

Fe wnaeth Robert Jones a Gregory Davies gynnal cyfweliadau ag wyth cyn-garcharor Cymraeg eu hiaith, oedd yng Ngharchar y Berwyn rhwng 2018 a 2022.

Dywedodd sawl unigolyn eu bod wedi cael eu herio gan swyddogion carchar wrth siarad Cymraeg gyda chyd-garcharorion.

Mewn rhai achosion, gofynnwyd iddyn nhw esbonio'r hyn gafodd ei ddweud, ar achlysuron eraill fe wnaeth staff eu gorfodi i newid i'r Saesneg.

Yn ôl un cyn-garcharor o'r enw Gwilym, roedd digwyddiadau "yn ddyddiol", tra bod eraill yn yr adroddiad wedi disgrifio "gelyniaeth lwyr tuag at yr iaith gan staff".

'Cael fy nghosbi amdano'

Dywedodd un gŵr o'r enw Ieuan wrth yr ymchwilwyr, fod staff wedi dweud wrtho am beidio â siarad Cymraeg gyda'i gyfreithiwr yn ystod cyfarfod a oedd i fod yn breifat a chyfrinachol.

"Roeddwn i ar gyswllt fideo gyda fy nghyfreithiwr ac roeddwn i'n siarad Cymraeg ag ef, a daeth y swyddog i mewn a dweud wrthyf am roi'r gorau i siarad Cymraeg, neu fel arall byddwn i'n cael fy 'neud amdano.

"Byddwn i'n cael fy nghosbi amdano".

Mae Dr Jones a Dr Davies hefyd yn honni bod carcharorion sy'n siarad Cymraeg wedi profi oedi sylweddol wrth yrru gohebiaeth yn y Gymraeg.

Dywedodd Hefin wrthyn nhw bod ei gyfaill, "wedi anfon llythyr [yn Saesneg], ac fe gyrhaeddodd o fewn dau, tri diwrnod. Mae fy llythyr [yn y Gymraeg] yn cymryd pythefnos, tair wythnos, ac os nad ydi o, [bydd] yn mynd ar goll.

"Roedd yn bathetig. Fe wnes i roi'r gorau i ysgrifennu llythyrau yn y diwedd gan nad oedden nhw byth yn derbyn rhai ohonyn nhw".

Efa Gruffudd JonesFfynhonnell y llun, Comisiynydd y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud bod yr ymchwil yn "achosi pryder"

Mae Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, yn dweud ei bod hi'n "cytuno â'r galwadau yn yr ymchwil i sicrhau bod hawliau ieithyddol yn cael eu parchu yn llawn".

Mae gan Ms Gruffudd Jones gyfarfod â rheolwyr carchar y Berwyn yn fuan, a dywedodd y bydd hyn yn "gyfle i drafod y materion hyn, ac i sicrhau bod gwelliant sylweddol yn y ddarpariaeth yn y dyfodol".

Ychwanegodd Ms Gruffudd Jones ar Dros Frecwast fod canlyniadau'r ymchwil yma yn "siomedig".

Cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg adroddiad yn 2019 ar y Gymraeg mewn carchardai yng Nghymru.

"Yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad hwnnw yn 2019, mae Cynllun Iaith Gymraeg wedi'i ddatblygu gan y Gwasanaeth Carchardai," meddai.

"Os yw popeth yn y cynllun yn digwydd fel y dylai e, ni ddylen ni barhau i weld hanesion fel hyn yn dod allan o brofiadau carcharorion."

'Ymrwymiadau cryf'

Gan nad ydy'r Gwasanaeth Carchardai wedi'i ddatganoli, dywedodd y Comisiynydd mai sicrhau bod y Cynllun Iaith yn cael ei weithredu yn gywir ydy'r unig bŵer sydd ganddi o fewn y mater.

"Dwi'n gallu ymchwilio a rhoi cyngor," ategodd.

"Mae'r Cynllun Iaith yn rhoi ymrwymiadau cryf, y bydd swyddogion yn hyrwyddo'r Gymraeg ymhlith carcharorion, yn sicrhau bod carcharorion yn cael eu cofnodi fel siaradwyr Cymraeg wrth gyrraedd, ac y bydd swyddogion sy'n siarad Cymraeg yn gwisgo bathodynnau iaith gwaith."

Ychwanegodd Ms Gruffudd Jones ei bod yn cymeradwyo'r ymrwymiadau rhain ac mai helpu'r carchar i'w cyflawni i'r llawn botensial ydy ei nod fel y Comisiynydd.

Straeon perthnasol