Dathlu chwarter canrif o feicio mynydd Coed y Brenin

  • Cyhoeddwyd
beicio mynyddFfynhonnell y llun, Coed y Brenin
Disgrifiad o’r llun,

Fe agorodd y ganolfan feicio mynydd estyniad newydd gwerth £1.7m yn 2013

Bydd dathliad yn cael ei chynnal y penwythnos yma i nodi 25 mlynedd ers agor llwybrau beicio mynydd yng Nghoed y Brenin.

Mae'r ganolfan ym Meirionnydd, sydd ar ffordd yr A470 rhwng Trawsfynydd a Dolgellau, yn adnabyddus am ei 200 cilometr o lwybrau ar gyfer rhedeg, cerdded a beicio mynydd.

Honno oedd y ganolfan beicio mynydd gyntaf yn y DU pan gafodd ei hagor chwarter canrif yn ôl.

I nodi'r garreg filltir mae cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi cael eu trefnu gan gynnwys ras enduro i blant, ras 'Fat Tyre Revolution', a ras 'Breeze' i ferched.

Bydd digwyddiadau eraill yn cynnwys sesiwn holi ac ateb gyda chyfarwyddwr 'Mountain Biking - the Untold British Story', Pip Piper, a pharti ar y nos Sadwrn, gyda diwedd ras Enduro Coed y Brenin yn dod â'r cyfan i ben ddydd Sul.

"Coed y Brenin yw un o'r lleoedd harddaf yng Nghymru ac rydym yn falch o allu cynnig cymaint o lwybrau cyffrous i bawb eu mwynhau," meddai Grace Sanderson, Cynorthwydd y Ganolfan Ymwelwyr yn Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd yn rheoli'r goedwig.

"Ein gobaith yw y bydd digwyddiadau o'r fath yn helpu mwy o bobl i fentro allan a mwynhau ein hamgylchedd naturiol bendigedig."