'Plismona'r môr yn anoddach wedi Brexit'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Pa effaith fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei gael ar y diwydiant pysgota yng Nghymru?

Mae prif ymgynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio y gallai Brexit arwain at "dymor agored" yn nyfroedd pysgota Cymru.

Yn ôl y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, fe fyddai plismona'r moroedd am bysgotwyr anghyfreithlon yn anoddach pan fydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond fe ddywedodd un pysgotwr wrth BBC Cymru bod polisïau'r UE wedi bod yn "ddinistriol" i'r diwydiant.

'Nôl ym mis Medi cafodd tair llong ddirwyon gwerth £62,000 am bysgota cregyn bylchog oddi ar arfordir Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Y Cwnsler Cyffredinol yn gweld y gwaith i ddiogelu gwelyau cocos Llansteffan

Mi gafodd yr Aelod Cynulliad Mick Antoniw ei benodi'n Gwnsler Cyffredinol ym mis Mehefin, ac yn ei enw o mae adran o Lywodraeth Cymru'n plismona'r arfordir.

Nawr mae Mr Antoniw yn rhybuddio y byddai hynny'n anoddach ar ôl i Brydain adael yr UE gan na fyddai yna gytundebau gyda llongau o wledydd eraill.

"Bydd Brexit yn newid mawr i'r sefyllfa, achos ar hyn o bryd mae ganddon ni gyfreithiau Cymreig penodol ond mae'n rhaid iddyn nhw gydymffurfio â safonau a chyfarwyddyd yr UE," meddai.

"Unwaith y daw hynny i ben bydd hi fel tymor agored - 'dyn ni ddim yn gwybod beth fydd y sefyllfa, 'dyn ni ddim yn gwybod sut y bydd yn rhaid i ni amddiffyn ein dyfroedd achos fydd 'na ddim cytundebau gyda llongau pysgota Ewropeaidd."

Disgrifiad,

Bydd Brexit yn dda i'r diwydiant, yn ôl y pysgotwr Len Walters o Aberteifi

Ond wfftio hynny mae un o bysgotwyr Aberteifi.

Fe ddywedodd Len Walters, sy'n pysgota o'i gwch Glas y Dorlan, na allai pethau "fynd yn waeth" nac y mae hi gyda'r DU o fewn yr UE.

"Unwaith mae Erthygl 50 yn cael ei arwyddo, wedyn mae'r cyfyngiad o 200 milltir yn dychwelyd i ddyfroedd y DU ac i ddwylo'r DU, a mae hynny'n well i ni sut bynnag 'dych chi'n edrych ar bethau," meddai.

Disgrifiad,

Eirig Parry sydd yn esbonio'r gwaith sydd yn cael ei wneud i blismona'r moroedd

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod pysgota anghyfreithlon yn gallu dirywio poblogaeth y pysgod a niweidio'r economi.

Yn y tair blynedd diwethaf mae swyddogion wedi ymchwilio i 57 achos honedig o bysgota anghyfreithlon, a arweiniodd at 31 erlyniad llwyddianus.