Bocsiwr wedi marw ar ôl gornest yn erbyn y Cymro Dale Evans
- Cyhoeddwyd
Mae bocsiwr o'r Alban wedi marw ar ôl iddo gael anaf difrifol i'w ben mewn gornest yn erbyn y Cymro Dale Evans yn Glasgow nos Iau.
Roedd Mike Towell o Dundee yn 25 oed.
Cafodd Mike Towell ei fwrw i'r llawr yn rownd gyntaf yr ornest gan Dale Evans o Gaerfyrddin.
Ond fe gododd yn ôl ar ei draed a pharhau i focsio tan y bumed rownd.
Cafodd yr ornest ei hatal adeg hynny gan y dyfarnwr pan gafodd ei daro i'r llawr unwaith eto.
Cafodd driniaeth feddygol yn y fan a'r lle a'i anfon i'r ysbyty.
Cur pen
Pan oedd yn sâl yr ysbyty fe ddywedodd Dale Evans mewn datganiad ei fod yn teimlo yn drist ofnadwy am yr hyn oedd wedi digwydd.
Dywedodd cariad Mike Towell, Chloe Ross ei fod wedi bod yn cael cur yn ei ben yn ddiweddar.
Dywedodd ar Facebook: "Roedd wedi bod yn cwyno fod ganddo gur yn ei ben yn yr wythnosau diwethaf ond mi oedden ni yn meddwl mai meigryn oedden nhw achos straen yr ornest oedd ganddo o'i flaen.
"Dyma'r 24 awr hiraf erioed i ni.
"Mae fy mabi wedi colli ei dad ond fe fydd yn falch iawn o'r hyn wnaeth ei dad gyflawni."
Mae Nicky Piper, sydd yn gyn bencampwr pwysau is-drwm y Gymanwlad wedi dweud pe byddai doctoriaid yn gwybod bod Mike Towell wedi bod yn dioddef o gur pen cyn yr ornest y byddai wedi gorfod cael mwy o brofion meddygol.
Dywedodd hefyd efallai y byddai'r ornest wedi ei chanslo a bod profion meddygol ar gyfer bocsio yn rhai llym.
Bu farw Mike Towell nos Wener gyda'i deulu o'i gwmpas.