Cyngor Llyfrau yn cyhoeddi enw eu Prif Weithredwr newydd

  • Cyhoeddwyd
Helgard Krause

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi mai Helgard Krause fydd yn olynu Elwyn Jones fel Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau.

Yn enedigol o'r Almaen, cafodd Helgard Krause ei magu yn ardal Rheinland Pfalz, mewn tref fechan ar y ffin â Ffrainc.

Graddiodd mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Berlin cyn dilyn cwrs mewn llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Sussex yn 1993.

Mae hi wedi gweithio i sawl cwmni ym maes cyhoeddi, gan gynnwys Routledge a chwmni dosbarthu yn Rwsia. Yn ddiweddarach ymunodd â chwmni cyhoeddi Rotovision, gan ddod yn Bennaeth Gwerthu a Hawlfreintiau lle bu'n arwain eu cynlluniau marchnata yn Tsieina, Siapan, Awstralia ac America.

Symud i Gymru

Fe symudodd Ms Krause i Gymru yn 2002, pan gafodd ei phenodi'n Swyddog Marchnata Tramor i'r Cyngor Llyfrau.

Yn dilyn dwy flynedd o hyrwyddo llyfrau Cymru ar draws y byd, fe'i penodwyd yn Bennaeth Gwerthu a Marchnata.

Ar hyn o bryd, hi yw Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru.

Wrth gyhoeddi'r penodiad, dywedodd Cadeirydd y Cyngor Llyfrau, yr Athro M. Wynn Thomas: "Mae hwn yn benodiad rhagorol i swydd allweddol. Mae gan Helgard Krause gyfoeth o brofiad a sgiliau. Bydd hynny'n help i sicrhau dyfodol cadarn i sefydliad cenedlaethol amlwg sydd o'r pwys mwyaf o ran diogelu diwylliant Cymru yn y ddwy iaith."

Fe fydd Helgard Krause yn dechrau ei swydd newydd yn mis Chwefror.