Caerdydd yn diswyddo eu rheolwr Paul Trollope

  • Cyhoeddwyd
Paul TrollopeFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cadarnhau eu bod wedi diswyddo eu rheolwr Paul Trollope.

Dyw'r tîm ddim wedi cael dechrau da i'w tymor yn y Bencampwriaeth, gan ennill dwy o'u 11 gêm hyd yn hyn.

Mewn datganiad ar eu gwefan, dywedodd y clwb bod cytundeb Trollope wedi cael ei ddiddymu ar unwaith.

"Hoffwn ddiolch i Paul am ei ymdrechion ac rydym yn dymuno'n dda iddo yn y dyfodol," meddai'r clwb.

Mae Caerdydd hefyd wedi cadarnhau bod yr is-hyfforddwr Lennie Lawrence a'r Cyfarwyddwr Perfformiad, Ryland Morgans wedi cael eu diswyddo.

Dim ond yn yr haf y cafodd Trollope ei benodi'n rheolwr, a hynny fel olynydd i Russell Slade.

Cyn hynny bu'n un o hyfforddwyr cynorthwyol i Slade yng Nghaerdydd, ac roedd hefyd yn is-reolwr ar dîm Cymru yn Euro 2016.