Dim un ddirwy am ysmygu mewn ceir sy'n cludo plant
- Cyhoeddwyd
Does dim un ddirwy wedi ei rhoi yng Nghymru am ysmygu mewn ceir sy'n cludo plant, flwyddyn wedi cyflwyno'r gyfraith.
Ers mis Hydref 2015 mae hi wedi bod yn anghyfreithlon i ysmygu mewn cerbyd sy'n cludo rhywun o dan 18 oed, gyda gyrwyr a theithwyr yn wynebu dirwy o £50.
Flwyddyn yn ddiweddarach, does yr un o gynghorau Cymru wedi rhoi dirwy, er bod rhai heddluoedd a chynghorau wedi rhoi rhybudd llafar.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y gyfraith yn anfon "neges gref" i ysmygwyr.
'Cam pwysig'
Yr heddlu ac awdurdodau lleol sydd â'r hawl i weithredu'r gyfraith, ac fe'i disgrifiwyd fel "cam pwysig" i amddiffyn plant rhag mwg ail-law.
Yn ôl rhai cynghorau, maen nhw'n cynnig canllawiau, ond bod yr heddlu mewn gwell sefyllfa i weithredu'r ddeddf gan nad oes gan swyddogion cyngor yr hawl i atal cerbydau.
Ond, mae ffederasiwn yr heddlu, y corff sy'n cynrychioli plismyn yng Nghymru a Lloegr yn dweud nad yw eu haelodau nhw wedi cael y grymoedd eto i gyflwyno dirwyon fel hyn.
Dywedodd Cynghorau Ynys Môn, Blaenau Gwent, Caerfyrddin a Chonwy nad oedden nhw wedi gweithredu unrhyw gam.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dweud eu bod yn edrych ar "weithredu yn y dyfodol," tra bod Cyngor Mynwy wedi rhoi rhybuddion i rai pobl mewn cerbydau oedd wedi eu hurio'n breifat.
'Anodd i'w weithredu'
Dyw heddluoedd y Gogledd na Gwent ddim wedi rhoi unrhyw ddirwy, tra bod Heddlu Dyfed-Powys wedi rhoi pedwar rhybudd ar lafar rhwng Hydref 2015 ac Ebrill 2016.
Roedd Heddlu'r De yn dweud y byddai'n rhaid cyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth am y manylion.
Yn ôl Ffederasiwn yr Heddlu, mae'r gwaharddiad yn "anodd" i'w weithredu, gyda'r heddlu yn gorfod cyfeirio troseddwyr at y cynghorau.
Darn o'r jig-so ar goll
Yn ôl Jayne Willets o'r Ffederasiwn, mae'n rhaid i gymdeithas "gymryd cyfrifoldeb am y mater."
"Y cynllun gwreiddiol oedd i'r awdurdod iechyd cyhoeddus newid y gyfraith a rhoi mwy o rymoedd i'r heddlu... fyddai'n caniatau i swyddogion i atal modurwyr a rhoi dirwy yn y fan a'r lle, fel sy'n digwydd ar gyfer troseddau eraill, fel defnyddio ffôn symudol tra'n gyrru.
"Ond oherwydd nad yw hynny wedi digwydd, mae darn o'r jig-so ar goll."
Newid agweddau
Dywedodd Prif Weithredwr Ash Cymru, Suzanne Cass, bod y gyfraith wedi newid agweddau pobl at ysmygu, yn ogystal ag amddiffyn iechyd pobl ifanc.
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, fe ddylid mesur llwyddiant y ddeddf wrth i agweddau ac ymddygiad newid, nid yn ôl nifer y dirwyon.
"Mae'r gyfraith yn rhoi neges glir i bobl nad yw ysmygu mewn ceir pan fydd plant yn bresennol yn dderbyniol."