Gwaith i ddechrau ar gynllun atal llifogydd yn Llanelwy
- Cyhoeddwyd
Bydd y gwaith o adeiladu cynllun i amddiffyn mwy na 400 o adeiladau yn Llanelwy rhag llifogydd yn cychwyn ddydd Llun.
Mae rhan gyntaf y gwaith yn cynnwys cael gwared â Phont Spring Gardens ac adeiladu pont uwch yng nghanol y ddinas.
Yn 2012 fe gafodd llifogydd effaith ar nifer fawr o dai yn Llanelwy.
Bydd ail ran y cynllun yn canolbwyntio ar wella amddiffynfeydd yn y ddinas ac mae disgwyl i hyn ddechrau ym mis Ionawr 2017.
Rhwystrau dros dro
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) y bydd y cynllun hefyd yn gwella'r amgylchedd.
"Fe fydd y cynllun hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl sy'n byw ac yn gweithio yn Llanelwy, sef rhai a ddioddefodd lifogydd dinistriol yn 2012 ac sydd wedi byw gyda'r bygythiad llifogydd ers nifer o flynyddoedd," meddai Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau CNC, Tim Jones.
Hyd nes bydd y cynllun wedi'i gwblhau, bydd camau tymor byr i leihau'r perygl llifogydd yn parhau ar Afon Elwy.
Mae hyn yn cynnwys gosod rhwystrau llifogydd dros dro, pan fo angen, ar hyd llecyn 150 metr o'r afon.