Cerflun pabïau coch Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd
Bydd cerflun sydd wedi ei wneud o gannoedd o babïau coch i goffau canrif ers y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei arddangos yng Nghymru am y tro cyntaf ddydd Mawrth.
Mae gwaith yr artist Paul Cummins a'r cynllunydd Tom Piper yn rhaeadr o 1,000 o flodau pabi coch seramig.
Mae'r cerflun, y Weeping Window, yn cael ei arddangos yng Nghastell Caernarfon fel rhan o daith o gwmpas y DU.
Bydd y pabïau coch, a wnaed â llaw, yn llifo o waliau'r castell i'r ddaear.
Mae'r Weeping Window yn un o ddau gerflun gafodd eu gweld yn wreiddiol yn Nhŵr Llundain yn 2014, pan gafodd 888,246 o babïau unigol eu harddangos, un ar gyfer pob milwr Prydeinig fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Weeping Window yw'r rhaeadr o flodau yn arllwys o ffenest uchel y castell i'r gwair islaw. Mae'r ail gerflun, Wave, hefyd yn teithio o gwmpas y DU.
Mae'r ddau gerflun yn cynnwys dros 11,000 pabi rhyngddyn nhw, ac wedi cael eu rhoi'n anrheg i 14-18 NOW - rhaglen gelfyddydol ar gyfer cofio canmlwyddiant y rhyfel - a'r Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol.
'Cyfle i gofio'
Bydd y gwaith hefyd i'w weld yng Nghaerdydd, a'r bwriad yw cefnogi'r ymdrechion coffáu.
Yn ogystal â'r arddangosfa, bydd gweithgareddau addysgol mewn ysgolion a digwyddiadau lleol gyda phartneriaid cymunedol ledled Gwynedd.
Dywedodd Julie James, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Cymru, y bydd y cerfluniau yn croesawu "hyd at 3,000 o ymwelwyr bob dydd".
"Mae gweld Weeping Window yn dod i Gastell Caernarfon yn nodi digwyddiad diwylliannol o bwys i bobl Cymru. Teimlwyd y golled a gafwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf am genedlaethau, ac mae'r arddangosfa hon yn cynnig cyfle pwysig i gofio a nodi'r holl bobl a gollwyd."
Ychwanegodd Nigel Hinds, Uwch-gynhyrchydd 14-18 NOW: "Mae'n arbennig o addas i feddwl y bydd y pabi yn y castell yn ystod canmlwyddiant wythnosau olaf Brwydr y Somme, y bu i'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig chwarae'r fath ran bwysig ynddi."
Bydd y gosodiad ar agor i'r cyhoedd yn y Castell bob dydd tan 20 Tachwedd cyn iddo symud i senedd y brifddinas o 5 Awst i 24 Medi 2017.