Galw am erlyn Valero wedi llygredd cerosin Sir Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i erlyn cwmni ar ôl i 140,000 litr o gerosin ollwng o bibell yn Sir Gaerfyrddin.
Ar raglen Taro'r Post, dywedodd y cynghorydd Alun Lenny hefyd bod angen i'r cwmni dalu iawndal am yr effaith.
Mae'r bibell yn rhedeg o burfa'r cwmni yn Sir Benfro trwy rannau o Sir Gaerfyrddin ac i fyny at ogledd-orllewin a chanolbarth Lloegr.
Dywedodd llefarydd ar ran Valero bod y cwmni'n ymddiheuro ac yn ystyried cais cynghorwyr i ad-dalu'r cynghorau.
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod bellach wedi llwyddo i adfer dros 100,000 litr o'r cerosin, a bod y gwaith glanhau yn parhau.
'Anghyfleuster'
Daeth i'r amlwg yn gynharach yn y mis bod cerosin wedi gollwng i nant Pibwr o bibell sydd wedi ei gosod o dan yr A48.
Yn ogystal â'r niwed i'r draffordd, mae rhwystrau wedi eu rhoi ar nant Pibwr er mwyn ceisio rwystro cerosin rhag cyrraedd y Tywi.
Mae rhan o'r A48 i'r dwyrain ynghau am gyfnod o bum wythnos er mwyn i'r bibell tanwydd gael ei thrwsio, a bydd y ffordd ynghau yn gyfan gwbl dros y penwythnos.
Dywedodd Mr Lenny ei fod yn "arswydo" i feddwl am effaith cau'r ffordd, a galwodd am iawndal i'r gymuned leol.
Ychwanegodd bod angen i'r llywodraeth "ddwyn achos yn eu herbyn nhw a dirwyo'r cwmni, maen nhw wedi ymddiheuro a cwympo ar eu bai, ond allwch chi ddim gadael hi yn fa'na".
Hefyd ar y rhaglen, galwodd cynghorydd lleol, Elwyn Williams ar y cwmni i ailosod y bibell gydag un newydd i osgoi digwyddiad tebyg eto.
Wrth ymateb i'r galwadau am ad-dalu Cyngor Cymuned Llangynnwr a Chyngor Tref Caerfyrddin, dywedodd llefarydd ar ran Valero eu bod yn "ymwybodol ein bod wedi achosi amhariad i fywydau'r bobl leol, ac rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleuster", gan ychwanegu eu bod yn "ystyried y mater o ad-daliad".
Mewn datganiad pellach brynhawn ddydd Mercher, dywedodd y cwmni: "Mae Valero wedi parhau i ddarparu adnoddau sylweddol ar bob awr o'r dydd er mwyn delio â'r digwyddiad hwn ac rydym wedi gwneud cynnydd da iawn gyda thros 100,000 litr o'r cerosin yn cael ei adfer hyd yn hyn.
"Mae tri o'r pedwar bŵm yn rhydd o olew bellach, tra bod y pedwerydd yn dal i gasglu deunydd.
"Mae Valero yn amcangyfrif bod maint y cerosin gafodd ei golli yn oddeutu 140,000 litr, ond allwn ni ddim diystyrru y gallai fod yn uwch neu'n is."
Ychwanegodd y cwmni eu bod yn parhau i weithio â Chyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru, ac mai'r cynllun i gau ffordd yr A48 ger Nantycaws o nos Wener 14 Hydref i fore Llun 17 Hydref fyddai'r ffordd gyflymaf o i ddatrys y broblem heb amharu'n ormodol ar drigolion lleol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2016