Agor canolfan hybu'r Gymraeg ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Bydd canolfan ar gyfer hybu'r Gymraeg yn cael ei hagor yn swyddogol ym Mangor ddydd Gwener.
Bydd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies yn dadorchuddio plac i agor canolfan Popdy cyn cynnal diwrnod agored ddydd Sadwrn.
Fe wnaeth Cyngor Gwynedd, mewn partneriaeth â Menter Iaith Bangor, dderbyn £300,000 trwy gyllideb cyfalaf Bwrw Ymlaen Llywodraeth Cymru i brynu ac adnewyddu'r adeilad ar Lôn Pobty.
Bydd Popdy yn swyddfa i Fenter Iaith Bangor a staff rhanbarth Eryri o Urdd Gobaith Cymru, sy'n symud yno o'u hen swyddfa ym Mharc Menai.
Fe fydd rhan o'r adeilad hefyd yn cael ei logi allan i sefydliadau a mudiadau eraill sy'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Fel rhan o agor y ganolfan mae swydd newydd wedi cael ei chreu i hyrwyddo a chydlynu'r gwaith.
Cafodd Dylan Bryn Roberts ei benodi yn Rheolwr a Swyddog Datblygu Menter Iaith Bangor yn gynharach eleni, a bydd yn gweithio yn y ganolfan fel un o staff Hunaniaith - yr uned o fewn Cyngor Gwynedd sy'n hyrwyddo'r Gymraeg.
'Bwrlwm o weithgaredd'
Dywedodd Cadeirydd Menter Iaith Bangor, Menna Baines: "Mae'n gyffrous iawn gweld y ganolfan yn agor ar ôl yr holl waith caled i'w sefydlu hi.
"Y gobaith ydi y bydd Popdy, yn fuan iawn, yn fwrlwm o weithgaredd trwy gyfrwng y Gymraeg."
"Mi fydd yr hyn fydd yn digwydd yma hefyd yn sail cadarn i ymdrechion ehangach Menter Iaith Bangor wrth inni fynd ati, ar y cyd â'n hamrywiol bartneriaid, i wireddu ein nod cychwynnol, sef cynyddu'r defnydd o'r iaith ar lefel gymunedol ar draws y ddinas."
Yn dilyn yr agoriad swyddogol ddydd Gwener bydd diwrnod agored yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn i gyd-fynd â Diwrnod Shw'mae Su'mae, digwyddiad sy'n annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg.
Ymhlith y digwyddiadau ddydd Sadwrn bydd y cyflwynydd Dewi Llwyd yn holi panel o enwogion ac ieuenctid lleol am Fangor a lle'r Gymraeg yn y ddinas, tra bo Kariad y Clown, Mr Urdd a Magi Ann yn atyniadau i blant.