Ham Caerfyrddin yn derbyn statws gwarchodedig gan yr UE
- Cyhoeddwyd
Mae Ham Caerfyrddin wedi derbyn statws arbennig gan yr Undeb Ewropeaidd i ddiogelu ei enw, yn ôl ei gynhyrchwyr.
Mae'r cig wedi cael statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig, un o dri math o warchodiad i enwau bwydydd.
Dywedodd y brodyr, Chris a Jonathan Rees, y ddiweddaraf o bum cenhedlaeth i gynhyrchu'r ham, eu bod "ar ben ein digon".
Dim ond 700-800 coes o'r ham y mae'r teulu'n ei wneud bob blwyddyn.
Mae'r ham yn ymuno â bwydydd eraill o Gymru sydd wedi'u gwarchod, fel Halen Môn a thatws newydd Sir Benfro.
'Balchder mawr'
Daw'r gyfraith sy'n gwarchod yr ham gan Gynllun Gwarchod Enwau Bwydydd yr UE.
Mae nifer o gynhyrchwyr wedi annog Llywodraeth y DU i sicrhau bod y statws yn cael ei gadw yn dilyn Brexit.
"Mae hi wedi cymryd chwe blynedd ac fe wnaethon ni gael ychydig o fygythiad gyda Brexit, ond o'r diwedd dy'n ni wedi cyrraedd yno," meddai Mr Rees.
Dywedodd llefarydd o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig bod Cymru'n "dod a balchder mawr i ddiwydiant bwyd a diod Prydain".
"Mae hi'n dda gweld Ham Caerfyrddin yn derbyn cydnabyddiaeth a rhoi hwb pellach i'r cwmni Prydeinig gartref ac ar draws y byd."