Saethu yn 'werth £75m i economi cefn gwlad Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Gareth Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gareth Jones bod saethu yn golygu incwm "sylweddol" i'r stad dros y gaeaf

Mae ymchwil gan y Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydeinig, y BASC, yn awgrymu bod saethu werth £75m i economi cefn gwlad Cymru.

Mae hela ffesantod, hwyaid ac anifeiliaid eraill yn weithgaredd sy'n cael ei weld yn un ymylol gan lawer, ond mae'r gymdeithas yn dweud ei fod yn cael effaith fawr ar yr economi.

Yn ôl un o weithwyr stad saethu yng ngogledd Cymru, mae'n dod ag incwm "sylweddol" i'r ardal ar adeg pan nad oes llawer o dwristiaid yn ymweld.

Yn ôl y BASC, mae saethu yn dod a £75m i economi cefn gwlad Cymru, ac yn cyflogi 2,500 o bobl yn llawn a rhan amser yn y maes.

Arian i'r economi

Ar Stad y Rhug ger Corwen, mae helfa ffesantod wedi bod yn digwydd ers rhyw 30 mlynedd.

Yn ôl Gareth Jones, llefarydd ar ran y Stad, mae saethu yn dod a hwb economaidd mawr i'r stad ac i'r ardal gyfagos.

Dywedodd: "Mae rhyw 10 o bobl ar y tro yn talu swm sylweddol o arian i ddod yma i saethu, a hynny rhyw dair i bedair gwaith bob wythnos o fis Hydref tan ddiwedd Ionawr.

"Ar adeg pan nad oes yna lawer o dwristiaid o gwmpas mae'r bobl yma yn llenwi'r gwestai lleol a ma' nhw'n cael lluniaeth yma ar y stad hefyd."

Ychwanegodd: "Dwi'n dallt nad ydi saethu at ddant pawb ond mae'n syndod faint o arian sy'n dod i'r economi leol ohono a hynny mewn pob math o ffyrdd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Meurig Rees yn lefarydd ar ran y Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydeinig

Disgrifiad o’r llun,

Mae cwn fel Mic yn aml yn cael eu defnyddio i ddod o hyd i adar sydd wedi eu saethu

Ategu hyn wnaeth Meurig Rees, llefarydd ar ran y BASC.

Dywedodd: "Mae na ryw 76,000 o bobl yn saethu yng Nghymru a mae na 2,500 o bobl yn cael eu cyflogi yn rhan a llawn amser yn y maes, a mae na ryw 3,000 o fusnesau yma yn gwerthu dillad ac offer ac ati yn ymwneud a saethu." Ychwanegodd bod pob math o bobl yn saethu, o ffermwyr, cyfreithwyr, dynion tan, bancwyr gweithwyr mewn siopau ac yn y blaen.

Ond beth yw ei farn tuag at bobl sy'n gweld saethu fel peth creulon a diangen?

Dywedodd Mr Rees: "Mae pawb â'i farn, jyst bod nhw'n gadael i ni gael ein barn ni, a fel o ni'n dweud mae saethu werth £75m i'r economi leol."