Digwyddiadau i gofio 50 mlynedd ers trychineb Aberfan

  • Cyhoeddwyd
Aberfan

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i'r 116 o blant a 28 o oedolion fu farw yn nhrychineb Aberfan mewn digwyddiadau ddydd Sadwrn.

Ar 21 Hydref bydd hi'n 50 mlynedd ers i domen o lo lithro lawr y mynydd a gorchuddio ysgol ger Merthyr Tudful.

Fel rhan o'r digwyddiadau fe wnaeth gatrawd o gyn filwyr arwain parêd i ardd goffa Aberfan.

Bydd plant ysgol o bob cwr o Gymru hefyd yn perfformio fersiwn o'r gân Myfanwy yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn Sir Benfro.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bu'r parêd yn gwneud eu ffordd o Ganolfan Hamdden Gymunedol Aberfan i'r ardd goffan, bel cafodd dorch o flodau ei gosod.

Roedd tua 100 o bobl yn gwylio, wrth i nifer o bobl, gan gynnwys y maer lleol osod blodau hefyd.

Fe wnaeth carfan pêl-droed Cymru ymweld â'r gerddi ddydd Llun.

Ffynhonnell y llun, CBDC