Lluniau: Trychineb Aberfan

  • Cyhoeddwyd

Ar 21 Hydref 1966 cafodd 144 o bobl eu lladd pan lithrodd tomen lo i lawr mynydd a chladdu ysgol gynradd a deunaw o dai ym mhentref Aberfan. O'r rheiny fu farw, roedd 116 yn blant rhwng saith a deg oed.

Dyma drychineb Aberfan mewn lluniau.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd plant Ysgol Gynradd Pantglas newydd orffen gwasanaeth boreol pan dorrwyd ar yr heddwch

Ffynhonnell y llun, Fox Photos
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd stâd o argyfwng ei gyhoeddi yn y pentref a heidiodd pobl o bob rhan o Brydain i helpu

Ffynhonnell y llun, Keystone
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i weithwyr gadw'n dawel ar adegau rhag ofn i unrhyw un glywed gweiddi ymysg y rwbel

Ffynhonnell y llun, Keystone
Disgrifiad o’r llun,

Corff yn cael ei gludo o'r dinistr gan wirfoddolwyr a phlismyn. Dim ond 25 o blant wnaeth oroesi'r drychineb

Ffynhonnell y llun, Keystone/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Wrth i'r oriau fynd heibio roedd hi'n mynd yn fwy anhebygol bod unrhyw un a oedd wedi goroesi ar ôl

Ffynhonnell y llun, Jim Gray
Disgrifiad o’r llun,

Bu gwirfoddolwyr a thimau achub yn gweithio'n ddiflino drwy'r nos i geisio achub pobl

Ffynhonnell y llun, Keystone
Disgrifiad o’r llun,

Teulu yn galaru mewn angladd torfol - i 81 o'r rheiny fu farw - ar 28 Hydref 1966

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llawer o'r cyrff wedi'u claddu wrth ochr ei gilydd

Ffynhonnell y llun, Chuck Rapoport
Disgrifiad o’r llun,

Cenhedlaeth wedi mynd: Bachgen ar ei ben ei hun mewn maes chwarae yn Aberfan rhai wythnosau wedi'r gyflafan

Disgrifiad o’r llun,

Cofeb sydd i'w gweld yng Ngardd Goffa Aberfan ers 2006

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhesi o gerrig beddi gwyn yn rhoi syniad o faint y golled y diwrnod hwnnw