Y gyllideb: £240m ychwanegol i'r Gwasanaeth Iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ysgrifennydd Cyllid wedi cyhoeddi cynnydd o £240m mewn gwariant ar y Gwasanaeth Iechyd, wrth gyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017/18.
Cyfanswm y gyllideb yw tua £14.95bn, sydd ychydig yn llai na'r ffigwr ar gyfer 2015/16.
Ond wrth gyhoeddi ei gyllideb gyntaf fel yr Ysgrifennydd Cyllid, rhybuddiodd Mark Drakeford y byddai "mwy o doriadau i ddod" yn y dyfodol oherwydd toriadau i wariant drwy'r DU.
Mae'r gyllideb hefyd yn cynnwys £10m ar gyfer cynllun peilot Llywodraeth Cymru i gynnig 30 awr o ofal am ddim i blant tair a phedair oed.
Ond mae toriadau i rai adrannau o fewn llywodraeth leol, cynlluniau cymunedol ac addysg, gan gynnwys dod â'r cynllun £20m, Her Ysgolion Cymru, i ben.
Cytundeb £119m
Gan bod gan Lafur 29 o'r 60 o seddi yn y Cynulliad, roedd gweinidogion eisoes wedi cyhoeddi cytundeb £119m gyda Phlaid Cymru i sicrhau bod y gyllideb yn cael ei phasio.
Mae mesurau eraill yn cynnwys £111m i brentisiaethau a chynlluniau hyfforddi, a £4.5m i'w wario ar un o addewidion eraill Llafur - codi'r terfyn cyfalaf ar gyfer gofal preswyl i £50,000.
Daw'r gwariant ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd yn dilyn honiadau gan Ymddiriedolaeth Nuffield bod angen £2.5bn ychwanegol dros y 10 mlynedd nesaf.
Mae lleihad yn yr arian sydd ar gael i gynghorau ei wario o ddydd i ddydd, ond cynnydd yn yr arian sydd ar gael ar gyfer prosiectau mawr.
Dadansoddiad ein Golygydd Materion Cymreig, Vaughan Roderick
"Rydyn ni'n byw mewn cyfnod diddorol, a sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i hynny? Wel drwy gyflwyno cyllideb digon anniddorol.
"Er y sôn am doriadau, mae'r arian sy'n mynd i Lywodraeth Cymru gan San Steffan yn eithaf sefydlog eleni, ac mae'r arian sy'n mynd i gyrff cyhoeddus wedi aros yn eithaf sefydlog.
"Yr eithriad yw iechyd, sy'n gweld cynnydd mawr, ond mae bob tro yn edrych fel cynnydd mawr gan fod iechyd yn cymryd bron hanner gwariant y llywodraeth."
'Dim cuddio rhag heriau'
Wrth gyhoeddi'r gyllideb, dywedodd Mr Drakeford: "Ry'n ni'n dal i wynebu toriadau parhaus i'n cyllideb oherwydd penderfyniadau gan Lywodraeth y DU. Allwn ni ddim cuddio rhag yr heriau sy'n codi yn sgil hynny.
"Ry'n ni'n wynebu cyfnod y mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi'i alw'n gyfnod eithriadol o gwtogi ar wariant cyhoeddus dros 11 mlynedd neu fwy.
"Mae'r Gyllideb hon wedi'i datblygu hefyd yng nghyd-destun canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd a'r ansicrwydd ynghylch dyfodol ffrydiau ariannu hanfodol o Ewrop. Mae ein cynlluniau wedi'u llywio gan yr heriau hyn, na welwyd mo'u tebyg o'r blaen.
"Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, ry'n ni wedi cyhoeddi cyllideb refeniw un flwyddyn, a fydd yn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i'n gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr yn y dyfodol agos wrth i ni fynd ati i gydweithio i gynllunio at y dyfodol."
Wrth ymateb ar ran y Ceidwadwyr dywedodd llefarydd y blaid ar gyllid, Paul Davies, ei fod yn gobeithio y byddai'r gyllideb yn "llwyddo i gymunedau Cymru lle mae cymaint wedi methu".
"Maddeuwch i mi os ydw i'n cadw peth amheuaeth gan fod methiant mewn sawl ardal o fywyd cyhoeddus," ychwanegodd.