Anrhydeddu Ian Woosnam yn 'oriel anfarwolion' y byd golff
- Cyhoeddwyd
Mae'r golffiwr Ian Woosnam wedi dweud ei fod yn teimlo anrhydedd mawr o ennill ei le yn oriel anfarwolion golff.
Wrth ymateb i'r newyddion ar ei gyfri Twitter, dywedodd ei fod yn falch o gael ymuno â chymaint o'i gyd-bencampwyr.
Ymhlith uchafbwyntiau Woosnam ar y cwrs gollf oedd ennill pencampwriaeth y Masters yn Augusta yn 1991 ac arwain Ewrop i fuddugolaeth y Cwpan Ryder yn 2006.
Chafodd Woosnam, 58 oed, ddim o'i ddewis i'r oriel anfarwolion yn 2015, er iddo ar un adeg fod yn chwaraewr gorau'r byd, ac mae e wedi dweud yn y gorffennol nad yw'n deall pam na chafodd ei anrhydeddu'n gynt.
Mae Woosnam wedi ennill 52 o deitlau proffesiynol, mwy na Mark O'Meara (34) a David Graham (38) sydd hefyd ymhlith goreuon y byd.
Dywedodd Llywydd y Neuadd Enwogion, Jack Peter: "Mae Ian wedi cael gyrfa syfrdanol ac wedi cael cefnogaeth aruthrol gan y cyfryngau, pleidleiswyr a chefnogwyr yn ystod y broses yma."