Theresa May yn cefnogi munud o dawelwch Aberfan

  • Cyhoeddwyd
Theresa May

Mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi dweud ei bod hi'n bwysig i bobl ledled y DU nodi 50 mlwyddiant trychineb Aberfan, drwy barchu munud o dawelwch ddydd Gwener am 09:15.

Daeth ei sylwadau wrth ymateb i gwestiwn gan Gerald Jones, AS Merthyr Tudful a Rhymni, etholaeth sy'n cynnwys Aberfan, yn Sesiwn Holi'r Prif Weinidog yn Nhŷ'r Cyffredin.

Bu farw 144 o bobl, 116 yn blant, ar 21 Hydref 1966 ar ôl i domen o lo lithro i lawr y mynydd.

Dywedodd Mr Jones fod y drychineb wedi arwain at "golled annirnadwy i'r teuluoedd a'r gymuned gyfan" a gofynnodd i'r Prif Weinidog: "Am 09:15 ddydd Gwener fe fydd pobl Aberfan a chymunedau ledled Cymru yn nodi munud o dawelwch... A alla i ofyn i'r Prif Weinidog a fyddai hi'n cefnogi i'r munud o dawelwch i gael ei gefnogi drwy'r DU."

Dywedodd Mrs May ei bod yn meddwl y byddai'n briodol "ein bod i gyd yn dangos parch i'r rhai a gollodd eu bywydau a'u teuluoedd a ddioddefodd o ganlyniad i drychineb Aberfan dros 50 mlynedd yn ôl.

"Roedd yn drychineb ofnadwy," meddai, "nid yn unig i'r teuluoedd unigol, ond i'r holl gymuned, a dwi'n credu ei bod yn iawn ein bod yn cydnabod hyn ac yn ei nodi.

"Fe hawliodd fywydau 144 o bobl, y mwyafrif ohonyn nhw'n blant. Fe achosodd ddinistr i'r gymuned leol.

"Mae'n iawn i ni oedi ac ystyried y pen-blwydd bwysig hwn a chydnabod undod a gwytnwch pobl Aberfan i oroesi'r trychineb bwerus hon."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw 144 o bobl ar 21 Hydref 1966 ar ôl i domen o lo lithro i lawr y mynydd.

Teyrnged i ddewrder

Yn ystod y sesiwn Cwestiynau Cymreig, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wrth aelodau seneddol: "Rwy'n siwr y bydd yr holl dŷ yn ymuno â mi i nodi 50 mlynedd ers trychineb Aberfan y dydd Gwener hwn.

"Roedd hwn yn ddigwyddiad a syfrdanodd, nid yn unig Cymru, ond yr holl wlad a'r byd yn ehangach.

"Rwy'n siwr y dymuna fy nghydweithwyr...roi teyrnged i ddewrder a chryfder y gymuned a gariodd pobl Aberfan drwy'r digwyddiad a chynnig cymorth yn y misoedd a'r blynyddoedd a ddilynodd."

Yn ei hymddangosiad cyntaf yn llefarydd yr wrthblaid ar faterion Cymreig, dywedodd yr aelod Llafur, Jo Stevens, ei bod eisiau rhoi teyrnged i ysbryd a dycnwch pobl Aberfan."

Cafodd y teyrngedau eu hategu gan Jonathan Edwards o Blaid Cymru, a Mark Williams arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.