'Brexit wedi newid popeth': Trafod annibyniaeth i Gymru
- Cyhoeddwyd
Digon parchus oedd canlyniad Plaid Cymru yn etholiadau'r Cynulliad eleni, gyda'r blaid yn dringo nôl i'r ail safle ar ôl ennill 12 sedd a dros 20% o'r bleidlais.
Ond mae 2016 hefyd wedi bod yn ddigon digalon i'r blaid, sydd yn ystyried ei hun ymysg y mwyaf brwd dros Ewrop, yn dilyn canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r wythnos ddiwethaf hefyd wedi bod yn llawn cynnwrf i'r cenedlaetholwyr, yn dilyn penderfyniad un o'u hoelion wyth, Dafydd Elis-Thomas, i adael y blaid ac eistedd fel Aelod Cynulliad annibynnol.
Wrth iddyn nhw gynnal eu cynhadledd flynyddol yn Llangollen y penwythnos yma bu Cymru Fyw yn holi Mabon ap Gwynfor, oedd yn ymgeisydd Plaid Cymru yn Ne Clwyd yn etholiadau mis Mai.
Beth allwn ni ddisgwyl fydd prif negeseuon a phynciau trafod y blaid yn y gynhadledd eleni?
"Byddwn ni'n edrych ar ddau brif beth eleni - llwyddiant y gyllideb sydd newydd gael ei chyhoeddi gyda'r llywodraeth, a rôl y blaid yn sicrhau buddsoddiad i nifer o bethau yng Nghymru. Mae'n gipolwg ar beth fydden ni'n medru cyflawni petaen ni mewn llywodraeth yng Nghymru.
"Yr ail beth a hwyrach y peth pwysicaf fyddwn ni'n ei drafod yw Brexit, a beth yw dyfodol Cymru yn sgil y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, beth yw rôl Cymru yn drafodaeth honno."
Roedd canlyniad y refferendwm yn amlwg yn siom i'ch plaid, ond does dim arwydd hyd yn hyn bod pobl wedi newid eu meddyliau - oes peryg eich bod chi'n ymladd ar ochr anghywir y farn gyhoeddus, ac yn gwrthod derbyn y canlyniad?
"Yr ateb byr yw na, achos ni'n blaid egwyddorol, a ni'n driw a theyrngar i'n daliadau ni. Rydyn ni fel plaid yn credu, os ydyn ni am weld Cymru lewyrchus, teg a chydradd, mai bod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd yw'r ffordd orau o gyflawni'r weledigaeth honno.
"Dyw hynny ddim i ddweud ein bod ni'n diystyrru barn ychydig dros hanner y boblogaeth, mae'n golygu bod gwaith argyhoeddi gyda ni i wneud, ein bod ni hefyd yn ystyried y ffactorau wnaeth arwain y bleidlais yna, a sut i ateb y cwestiynau yna sydd wedi codi.
"Roedd pobl wedi datgan yn eithaf clir: 'dyw'r drefn fel y mae hi ddim yn mynd o'n plaid ni, gadewch i ni newid y drefn'.
"Yn anffodus roedd y bys wedi'i bwyntio yn y man anghywir, dylai'r bys fod wedi bod yn pwyntio at San Steffan, yr elît yno sydd yn gorfodi cynni ar gymunedau tlotaf y Deyrnas Gyfunol, ac mae'n rhaid i'r blaid ddangos arweiniad yng Nghymru nawr a dweud y gallwn ni sefyll ar ein traed ein hunain."
Mae'r Alban wedi atgyfodi'u trafodaeth nhw ar annibyniaeth yn sgil Brexit - ydych chi'n teimlo y dylai Plaid Cymru fod yn fwy llafar dros yr un achos i Gymru nac yr ydych chi wedi bod, er ei bod wastad wedi bod yn amcan i chi?
"Mae'r blaid wedi bod yn gefnogol o annibyniaeth neu hunan-lywodraeth, beth bynnag yw'r term, ers erioed. Ni wedi dweud er mwyn cyrraedd y nod yna bod rhaid mynd un cam ar y tro.
"Ond mae Brexit wedi newid pob dim. Mae'r achos dros annibyniaeth buan wedi dod yn dipyn cryfach. Does 'na ddim newid llywodraeth Prydeinig na Chymreig yn mynd i ddigwydd yn y pum mlynedd nesaf mwy na thebyg, ond mae'r bum mlynedd nesaf yn mynd i osod cywair a chyfeiriad y 100 mlynedd nesaf.
"Does na'm amheuaeth y bydd trafodaeth am [annibyniaeth] o fewn y blaid. Mae angen y drafodaeth honno, ac nid pawb o fewn y blaid fydd yn cytuno, ond mae'n rhaid cael trafodaeth er mwyn sicrhau ein bod ni'n dewis y llwybr gorau ymlaen."
Ydych chi'n credu y dylai'ch plaid chi gadw'r drws yn agored i glymblaid gyda Llafur, fel gafodd ei awgrymu'r wythnos hon?
"Mae'r mater wedi codi nid oherwydd unrhyw beth mae'r blaid wedi dweud na gwneud, ond oherwydd bod newyddiadurwr wedi holi'r cwestiwn.
"Dyw e ddim wedi bod yn fater sydd wedi bod yn cael ei drafod ar lawr gwlad o gwbl ymysg yr aelodau."
Sut awyrgylch sydd yn y gynhadledd yn dilyn ymadawiad Dafydd Elis-Thomas?
"Mae 'na siom, does dim amheuaeth am hynny. Mae gan Dafydd gefnogaeth o hyd oherwydd y cyfraniad anferthol mae wedi'i wneud i'r blaid ac i Gymru dros y degawdau. Mae dal cyfraniad mawr gan Dafydd i wneud. Ond fyddai o ddim ble mae o heddiw oni bai am y blaid.
"Mae'n siom ei fod wedi penderfynu gadael y blaid lawr, a gadael y rhai sydd wedi bod mor driw a ffyddlon iddo i lawr. Ond does dim cymaint o hynny o siarad wedi bod amdano fe [yn y gynhadledd] i fod yn onest.
"Dim y blaid wnaeth ei luchio fo allan, fo wnaeth adael... [ond] dwi ddim yn gweld pam fydde'r blaid yn gallu bod mor ffôl a throi unrhyw un i ffwrdd [petai'n dymuno dychwelyd]."
Un o'r pynciau llosg yr wythnos hon oedd argyfwng y ffoaduriaid - sut fyddech chi am weld y mater yn cael ei drin?
"Rydyn ni'n cywilyddio ein bod ni'n byw mewn gwladwriaeth sydd wedi dangos ei hun i fod mor gul, mor galon galed a mor ffiaidd yn y ffordd mae wedi delio â phobl fregus a llai ffodus.
"Mae angen i Gymru gymryd ei siâr. Allwn ni ddim gadael i bobl ddioddef - nid eu dewis nhw oedd cael eu geni a byw yn Aleppo, fe allai hyn ddigwydd unrhyw le yn y byd."
Mae rhagor o bwerau i'r Cynulliad yn thema cyson o fewn eich plaid - ydi hi'n bryd derbyn Mesur Cymru sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd, a chanolbwyntio ar wneud y gorau ohoni, yn hytrach na pharhau i drafod rhagor o ddatganoli?
"Tra bod 'na benderfyniadau i gael eu gwneud mi fyddwn ni'n gwthio am y ddêl orau posib i Gymru. Dyw hi ddim yn gyfrinach bod y blaid eisiau datganoli popeth i Gymru!
"Mae'n rhaid sicrhau bod y pethau gorau'n cael eu datganoli yn y mesur yma, a bod y grymoedd sydd gan ein Cynulliad ni ddim yn cael eu crebachu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2016