Ailagor Twnnel Hafren wedi gwaith trydaneiddio

  • Cyhoeddwyd
Y gwaith a fu'n digwydd yn nhwnnel Hafren

Mae Twnnel Hafren yn ailagor ddydd Sadwrn ar ôl bod ar gau am chwech wythnos ar gyfer gwaith trydaneiddio.

Fe gostiodd y gwaith o uwchraddio'r twnnel £10m.

Roedd yn rhan o gynllun ehangach gwerth £2.8bn i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Llundain a de Cymru.

Bu tri thîm o 200 o beirianwyr yn gweithio 24 awr y diwrnod i'w gwblhau.

Gwasanaeth awyrennau

Yn ystod y chwe wythnos diwetha' ychwanegwyd o leiaf 30 munud at siwrneiau teithwyr wrth i drenau gael eu dargyfeirio drwy Gaerloyw.

Dros y cyfnod, mae awyrennau wedi bod yn rhedeg rhwng Caerdydd a Maes Awyr Dinas Llundain - gwasanaeth fydd yn parhau er bod y twnneli'n ailagor.

Un o'r camau nesaf fydd trydaneiddio y rheilffordd rhwng Abertawe a Chaerdydd.

Dywedodd Network Rail nad oes dyddiad penodol hyd yma ar gyfer y gwaith hwnnw.