Pryder ymgyrchwyr am gyflymder traffig yn Nyffryn Ogwen
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr yn Eryri wedi croesawu astudiaeth diogelwch sydd yn cael ei gynnal ar ran o'r A5 ger Llyn Ogwen, yn dilyn pryderon y gallai traffig ar ochr y ffordd achosi damwain ddifrifol.
Yn ddiweddar fe gychwynnwyd deiseb ar-lein yn galw am leihau'r cyfyngiad cyflymder ar y rhan honno o'r ffordd i 40 milltir yr awr.
Mae pryderon wedi codi oherwydd bod dwsinau o geir yn aml yn parcio ar y palmant ar ochr y ffordd, gan orfodi cerddwyr, cadeiriau olwyn a phobl yn gwthio pramiau i gamu i'r ffordd er mwyn osgoi'r cerbydau.
Yn ôl yr ymgyrchwyr, mae hyn yn broblem fawr yn enwedig ar y penwythnos, yn ystod y gwyliau a misoedd prysur yr haf.
Guto Roberts o Fforwm Dyffryn Ogwen, sydd hefyd yn gweithio i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Idwal, oedd yr un a ddechreuodd y ddeiseb.
"Rydyn ni eisiau gwneud rhywbeth cyn i rywun gael eu brifo, neu'n fwy eithafol na hynny, eu lladd," meddai.
Yn ogystal â lleihau'r cyfyngiad cyflymder, mae'r ymgyrchwyr hefyd eisiau gweld newidiadau er mwyn sicrhau bod digon o le i gerddwyr ar y palmant neu ar lwybr gwahanol.
Mae'r ffermwr lleol Gwyn Thomas hefyd yn mynnu bod yn rhaid gwneud rhywbeth.
"Mae'r A5 yn ffordd hynod o brysur," meddai. "Fy mhryder i ydi bod gen i bump o wyrion sydd yn aml yn dod yma am dro hefo taid."
Mae'r ymgyrchwyr bellach wedi croesawu cadarnhad bod astudiaeth diogelwch yn cael ei gynnal.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mewn datganiad: "Rydyn ni wedi comisiynu astudiaeth diogelwch lleol ar y rhan hon o'r ffordd. Mae'r astudiaeth yn digwydd ar hyn o bryd ac yn ystyried data ar gyflymder.
"Rydyn ni hefyd wedi sicrhau bod y ddeiseb ar-lein yn cael ei hystyried fel rhan o'r astudiaeth diogelwch. Unwaith y byddwn ni wedi derbyn yr astudiaeth fe fyddwn ni'n ystyried y camau nesaf."