Beirniadu galwad Comisiynydd Heddlu i gyfreithloni canabis

  • Cyhoeddwyd
Arfon Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Jones y byddai cyfreithloni'r cyffur yn hwb i'r rheiny sydd ei angen am resymau meddygol

Mae galwad gan Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru i gyfreithloni canabis ar gyfer defnydd meddygol wedi ei feirniadu gan y Ceidwadwyr.

Roedd Arfon Jones, a gafodd ei ethol ym mis Mai, wedi anfon llythyr at wleidyddion yr ardal er mwyn ceisio denu eu cefnogaeth.

Dywedodd y Comisiynydd, sy'n aelod o Blaid Cymru, y byddai caniatáu defnydd o ganabis am resymau meddygol yn dod â "manteision sylweddol" i'r rheiny oedd ei angen.

Ond mae Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr yng Ngorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi beirniadu'r sylwadau fel rhai "byrbwyll" gan ddweud y gallai arwain at agwedd fwy llac tuag at gyffuriau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Darren Millar bod sylwadau Mr Jones yn "ddiofal a chamsyniol"

Dywedodd Arfon Jones ei fod wedi gwneud y sylwadau er mwyn dangos cefnogaeth i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Durham, Ron Hogg, sydd hefyd am weld canabis er defnydd meddygol yn cael ei gyfreithloni.

Ychwanegodd Mr Jones fod yr addewid hwnnw wedi bod yn rhan o'i faniffesto yn yr etholiad a enillodd eleni.

Roedd y drafodaeth ar y mater bellach wedi "symud ymlaen yn sylweddol", meddai, gan gyfeirio at ymchwil ar gyfer grŵp trawsbleidiol seneddol oedd wedi awgrymu y byddai cyfreithloni'r cyffur yn helpu 30,000 o bobl sy'n dioddef o glefydau fel sglerosis ymledol ac sy'n defnyddio canabis yn ddyddiol.

"Mae salwch yn gallu bod yn brofiad unig, yn enwedig os yw eich meddyginiaeth yn anghyfreithlon, a dydi hi ddim yn iawn bod pobl sydd yn ceisio lleddfu eu dioddefaint yn teimlo fel pe baen nhw'n droseddwyr," meddai.

Wfftio hynny wnaeth Mr Millar, gan ddweud: "[Mae o'n] gwybod ei hun yr effaith niweidiol mae cyffuriau'n eu cael ar ein cymunedau, felly roedd hi'n rhywfaint o syndod a siom pan dderbyniais y llythyr hwn."

Dywedodd yr AC Ceidwadol fod canabis yn "sylwedd peryglus" allai achosi "canlyniadau trychinebus" petai'n cael ei gyfreithloni, a bod sylwadau Mr Jones yn "ddiofal a chamsyniol".