Ateb y Galw: Ffion Dafis

  • Cyhoeddwyd
ffion

Ffion Dafis sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Lowri Morgan yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Eistedd ar lawr cegin fferm Nain a Taid yn Melin y Wig yn gwylio Nain yn wael iawn yn ei chadair. Wnai fyth anghofio oerni'r llawr teils coch 'na.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Hogyn oedd yn y chweched dosbarth pan o'n i yn y flwyddyn gyntaf. Doedd o ddim yn gwybod am fy modolaeth i. Dwi'n ei weld o yn Tesco Bangor pan dwi'n y Gogledd ac mae 'na rywbeth dal yn digwydd i mi!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae'n gas gen i ei dd'eud o ond dwi'n un o'r rhai sydd wedi cael fy nal yn siarad am bobl pan ar wyliau tramor a rheiny'n troi allan i fod yn siaradwyr Cymraeg. Dal yn chwysu wrth feddwl am wyliau sgio yn Ffrainc.

Disgrifiad o’r llun,

Ffion yn ei dyddiau yn y gyfres Amdani!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Cofio Aberfan.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Bwyta ac yfed yn rhy gyflym.

P'run yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dolwyddelan. Ges i fy magu yno tan o'n i'n wyth oed. Adra.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dwi'n falch o ddweud fod gen i fywyd sydd wedi cynnig ambell un o'r rhain i mi (ymysg rhai gwael drybeilig hefyd). Maen nhw yn ddi-eithriad yn cynnwys ffrindiau.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Blêr. Eangfrydig. Sensitif.

Beth yw dy hoff lyfr?

Little Book of Fairies. Fe gysgais efo fo o dan fy nghobennydd am flynyddoedd pan yn blentyn... mewn gobaith. Mae o dal gen i.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Dwi'n byw mewn jeans.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

The Girl on the Train. Peidiwch boddran.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Ruth Wilson.

Disgrifiad o’r llun,

Ffion yn actio rhan Rhiannon yn y gyfres Byw Celwydd ar S4C. Gobeithio ei bod hi'n d'eud y gwir wrth Ateb y Galw!

Dy hoff albwm?

Dummy gan Portishead.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a be' fyddai'r dewis?

Prif gwrs. Stêc ffilet efo salad mango a betys

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?

Donald Trump, i gael gwybod yn union beth sy'n mynd ymlaen o dan y fferet ar ei ben. Dim ymennydd dwi'n sicr.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Mark Lewis Jones