Camerâu’n dal 240 yn goryrru ar yr M4 o fewn tri diwrnod

  • Cyhoeddwyd
M4

Cafodd bron i 250 o bobl eu dal yn goryrru yn y tri diwrnod cyntaf o weithredu camerâu cyflymder ar yr M4 ger Casnewydd.

Mae'r terfyn cyflymder newidiol yn cael ei weithredu rhwng cyffyrdd 24 (Coldra) a 28 (Parc Tredegar) yr M4.

Cafodd y system ei gyflwyno yn 2011 ond dim ond ers 10 Hydref eleni y maen nhw wedi cael eu gweithredu.

Dywedodd sefydliad GoSafe, sy'n gweithredu terfynau cyflymder, bod 62 o yrwyr wedi cael eu dal ar y dydd Llun, 77 ar y dydd Mawrth a 101 arall ar y dydd Mercher.

Ychwanegodd y sefydliad bod y ffaith fod y camerâu bellach yn cael eu gweithredu wedi cael ei nodi'n amlwg ar arwyddion.

Mae'r terfyn yn gallu cael ei newid yn yr ardal, ac fe all fod ar unrhyw gyflymder rhwng 20mya a 70mya.