Mudiad Meithrin wedi gwneud colled o £470,000

  • Cyhoeddwyd
Mudiad

Fe wnaeth Mudiad Meithrin golled ariannol o £471,000 yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, yn ôl cyfrifon diweddaraf y mudiad.

Roedd hyn yn dros ddwbl y golled o £181,000 ar gyfer blwyddyn ariannol 2015.

Wrth ymateb i gwestiynau gan BBC Cymru Fyw, mae'r mudiad wedi cadarnhau y bydd rhai gwasanaethau yn dod i ben mewn ymgais i arbed arian.

Yn y cyfrifon diweddaraf, dywed Mudiad Meithrin eu bod wedi wynebu blwyddyn "heriol" yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2016, ond fod "strwythurau cyllid" mewn lle i gynnig gwasanaeth mwy effeithiol at y dyfodol.

Yn eu hymateb, dywedodd y mudiad bod y rhesymau am y golled "yn dod o nifer fawr o feysydd gwahanol".

Cau gwasanaethau

Mae'r mudiad yn dweud y bydd crèche yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd yn cau ar 12 Tachwedd, a hynny oherwydd "diffyg diddordeb yn y gwasanaeth".

Ond ni fydd hyn yn cael effaith ar swyddi, a bydd y staff sy'n gweithio yno yn cael eu "hadleoli i leoliadau cyfagos".

Bydd yr is-gwmni, Siop Dewin a Doti, yn cau hefyd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, gan olygu y bydd un person yn colli ei swydd.

Ychwanegwyd y bydd y siop ei hun yn parhau i fodoli, ond ar "raddfa llawer llai".

'Blwyddyn heriol'

Yn y cyfrifon, dywedodd Mudiad Meithrin: "Bu hon yn flwyddyn heriol unwaith eto yn ariannol. Ni chafwyd sefydlogrwydd o ran sefyllfa staffio'r adran gyllid ac arweiniodd hyn at broblemau a sialensiau amrywiol.

"Yn ogystal gwelwyd fod lleihad yn yr incwm o'r cynghorau sir a gwelwyd cynnydd mewn costau cyfreithiol, costau cyfrifyddol a gyda marchnad gynyddol gystadleuol, fe arweiniodd hyn at golledion ariannol yn ein meithrinfeydd a Siop Dewin a Doti.

"Yn dilyn arweiniad yr is-bwyllgor cyllid a staffio bu adolygiad a arweiniodd at newidiadau fydd yn sail i gryfhau rheolaeth ariannol o fewn y mudiad.

"Mae'r strwythurau cyllid bellach mewn sefyllfa i gynnig gwasanaeth effeithiol ac effeithlon i'r dyfodol."

Colli £200,000 eleni

Ond er y newid mewn strwythurau, mae'r mudiad yn cydnabod eu bod yn wynebu gwneud colled eto eleni.

Dywedodd llefarydd y byddan nhw'n colli £200,000 o ganlyniad i newid yn y ffordd y mae eu cynllun hyfforddiant, Cam wrth Gam, yn cael ei ariannu.

"Rydym yn gweithio'n galed i adnabod arbedion ond rhagwelir blwyddyn ariannol heriol eto eleni," meddai.

Wrth ymateb i'r colledion, dywedodd llefarydd bod dibrisiant, lleihad yn y cyfraniad gan gynghorau a llai o roddion oll wedi ychwanegu at eu sefyllfa ariannol bresennol.

"Mae'r golled yn dod o nifer fawr o feysydd gwahanol - dibrisiant (£264,000), lleihad yn y cyfraniad gan gynghorau sir (£120,000), lleihad yn yr incwm masnachol a llai o roddion," meddai'r llefarydd.

"Hefyd roedd costau ynghlwm wrth ddirwyn Cynllun Cyfeirio Caerfyrddin a Cyfle Cyntaf i ben (yn sgil penderfyniadau'r cynghorau sir), darpariaeth ar gyfer dyledion gwael, costau ychwanegol yn sgil diffyg capasiti o fewn yr Adran Gyllid, costau proffesiynol yn sgil ail strwythuro, croniad am wyliau staff yn sgil newid mewn deddfwriaeth cyfrifon, gostyngiad yn ein buddsoddiadau, colled o siop Dewin a Doti (yn sgil y cynnydd yn y gystadleuaeth mewn siopau ar lein megis Amazon) a gostyngiad cyffredinol mewn arian cyhoeddus."

Ffynhonnell y llun, PA

Ychwanegodd y llefarydd bod cynlluniau eisoes ar waith i "wneud y gorau o'r asedau sydd gan y mudiad wrth gefn i sicrhau y bydd y mudiad yn dod drwy'r cyfnod heriol yma'n gryfach".

"Mae'r tîm strategol yn adolygu'r gyllideb yn rheolaidd ac yn cadw golwg barcud ar y costau ac incwm ac yn ymgeisio am grantiau amrywiol a ffynonellau ariannol amgen," meddai.

Arian wrth gefn

Er y colledion ariannol, mae'n ymddangos fod cronfeydd ariannol y mudiad yn parhau mewn sefyllfa iach - gyda dros £920,000 yn eu cronfeydd anghyfyngedig, a £5,428,000 yn eu cronfeydd cyfyngedig.

Mae'r mudiad hefyd wedi cadw arian wrth gefn ar gyfer unrhyw argyfwng ariannol at y dyfodol, ac mae ganddyn nhw asedau sylweddol.

Yn y cyfrifon, dywed y mudiad ei fod yn "ymdrechu i gadw gwerth o leiaf chwe mis o wariant cyffredinol mewn cronfeydd wrth gefn, sy'n cyfateb i £800,000 mewn cronfeydd anghyfyngedig, heb eu clymu mewn asedau nac wedi eu dynodi ar gyfer pwrpas arbennig".

Ychwanegwyd: "Ar y lefel hwn, cred yr ymddiriedolwyr y gall yr elusen barhau mewn bodolaeth am gyfnod byr pe byddai lleihad mewn incwm."

Mae Mudiad Meithrin yn fudiad gwirfoddol sydd yn darparu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn y sector gwirfoddol.

Yn ôl gwefan y mudiad, y "nod yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg".

Mae tua 200 o staff cyflogedig gan y mudiad yn genedlaethol a thros 1,500 o staff yn gweithio yn y cylchoedd meithrin.